Cân 10
“Dyma Fi! Anfon Fi”
(Eseia 6:8)
1. Ble heddiw gwelir parch at Dduw?
Ar drai mae ffydd y ddynolryw.
‘Duw, nid yw’n bod!’ a fynna rhai;
D’wed eraill, ‘Arno Fo mae’r bai!’
I’r afael â hyn oll, pwy â?
Amddiffyn enw Duw, pwy wna?
“Iôr, dyma fi! O anfon fi.
Cyhoeddi wnaf dy glod a’th fri.
(CYTGAN)
Anrhydedd mwy na hyn nid oes Iôr.
Dyma fi! O anfon fi.”
2. Ar gynnydd mae’r di-ofn, di-Dduw;
Eu cwyn di-baid, ‘Un araf yw!’
Addola eraill ddelwau pren,
A gosod Cesar byd yn ben.
Am ryfel Duw, O codwch lais.
Pwy â i dystio yn y maes?
“Iôr, dyma fi! O anfon fi.
Rhybuddio wnaf ddilornus lu.
(CYTGAN)
Anrhydedd mwy na hyn nid oes Iôr.
Dyma fi! O anfon fi.”
3. Dwysáu mae trais a drygau’r dydd,
Gofidiau wna galonnau’n brudd.
Dyhead sydd am gyfiawn ddae’r,
Preswylfa’r hedd ffrwyth sanctaidd Air.
Pwy atynt â â’r Gair di-ffael:
‘Cyfiawnder fydd i’r ddae’r yn sail.’
“Iôr, dyma fi! O anfon fi.
Yr addfwyn rai a ddysgaf i.
(CYTGAN)
Anrhydedd mwy na hyn nid oes Iôr.
Dyma fi! O anfon fi.”
(Gweler hefyd Salm 10:4; Esec. 9:4.)