Cân 91 (207)
Eiddo Pwy Ŷm Ni?
1. Pwy biau’ch calon chi?
I ba Dduw ufuddhewch?
Yr hwn o’i flaen ymgrymu wnewch
Eich Meistr yw, ei ‘fwyd’ fe gewch.
Ni fedrwch fod yn was i ddau dduw yr un pryd;
Na rhannu yn iawn eich cariad a’ch dawn.
Ar ba Dduw rowch chi’ch bryd?
2. Pwy biau’ch calon chi?
I ba Dduw ufuddhewch?
Rhaid dewis rhwng y gau a’r gwir,
Gwnewch benderfyniad amlwg, clir.
Ai Cesar y byd hwn eich Meistr marwol fydd?
Neu’r gwir Dduw foddhewch a’i ’wyllys fawrhewch
Wrth gadw cadarn ffydd?
3. Nawr, eiddo pwy wyf fi?
Jehofah yw fy Nuw.
Gwasanaeth roddaf sydd yn bur;
Fe âf â’r newydd da drwy’r tir.
Fe’m prynwyd i am werth gan Dduw llawn cariad sy.
Drud aberth yr Had enillodd ryddhad.
Nid âf yn ôl i’r byd.
4. Jehofah piau ni!
 sicrwydd d’wedwn hyn.
Yn undod hedd ei gorlan wiw
Fe ymhyfrydwn wrth gyd-fyw.
Fel sawr yr olew coeth, brawdoliaeth deg fwynhawn.
Fe ddeuwn ynghyd yn gwbl unfryd;
Ar ddwyfol Air gwrandawn.