Cân 60
Fe’ch Gwna Chi’n Gadarn
1. I sylw Duw y daeth eich prif ddymuniad chi,
O’r t’wyllwch daethoch i’w oleuni gwiw.
Dymuno ’roeddech ’nabod Duw Jehofa’n well,
A’i wasanaethu am eich oes yn driw.
Mewn gweddi, addo fu i lwyr ymroi,
A gwneud ewyllys Duw yn ddiymdroi.
(CYTGAN)
Fe dalodd Jah y pridwerth, Crist Iesu roes ei waed.
Nawr eiddo Duw ŷch chi; eich llais i’r byd, O aed.
Cewch nerth i dystiolaethu; eroch aberth a wnaed.
Nawr eiddo Duw ŷch chi; eich llais i’r byd, O aed.
2. Yn wir, os Duw a roes ei briod Fab ei hun,
Cewch gryfder at bob gofyn dan ei iau.
Bob dydd cadarnach ddowch,
diysgog yn y ffydd. Yn eiddo iddo ydych yn ddiau.
Eich llafur cariad nid yn angof â;
Gofalu am ei ddefaid rai wna Jah.
(CYTGAN)
Fe dalodd Jah y pridwerth, Crist Iesu roes ei waed.
Nawr eiddo Duw ŷch chi; eich llais i’r byd, O aed.
Cewch nerth i dystiolaethu; eroch aberth a wnaed.
Nawr eiddo Duw ŷch chi; eich llais i’r byd, O aed.
(Gweler hefyd Rhuf. 8:32; 14:8, 9; Heb. 6:10; 1 Pedr 2:9.)