LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • we tt. 7-13
  • Ai Peth Normal Ydi Teimlo Fel Hyn?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ai Peth Normal Ydi Teimlo Fel Hyn?
  • Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Y Rhai A Wylodd yn y Beibl
  • Wylo neu Beidio
  • Sut Mae Rhai yn Ymateb
  • Sut y Gall Dicter ac Euogrwydd Effeithio Arnoch Chi
  • Colli Priod
  • “Peidiwch â Gadael i Eraill Reoli . . . ”
  • Sut ’Medra’ i Fyw Gyda’m Galar?
    Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
  • Sut Gall Eraill Helpu?
    Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
  • Beth i’w Ddisgwyl?
    Deffrwch!—2018
  • Yn y Rhifyn Hwn: Help ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru
    Deffrwch!—2018
Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
we tt. 7-13

Ai Peth Normal Ydi Teimlo Fel Hyn?

FE YSGRIFENNA person oedd wedi colli rhywun trwy farwolaeth: “Yn blentyn yn Lloegr, fe gefais i fy nysgu i beidio â rhoi mynegiant i’m teimladau yn gyhoeddus. Fe alla’ i gofio fy nhad, cyn-filwr, yn dweud wrthyf â’i enau ynghau, ‘Paid ti â chrio!’ pan ’roedd rhywbeth wedi achosi poen i mi. ’Fedra’ i ddim cofio a gusanodd neu a gofleidiodd mam unrhyw un ohonon ni blant (’roedd ’na bedwar ohonon ni). ’Roeddwn i’n 56 pan welais fy nhad yn marw. Fe deimlais golled enfawr. Ac eto, ar y cychwyn, ’fedrwn i ddim wylo.”

Yn rhai diwylliannau, mae pobl yn mynegi’u teimladau yn agored. Boed nhw’n llon neu’n drist, mae eraill yn gwybod sut maen’ nhw’n teimlo. Ar y llaw arall, yn rhai rhannau’r byd, yn enwedig yng ngogledd Ewrop a Phrydain, mae pobl, dynion yn arbennig, wedi cael eu cyflyru i guddio’u teimladau, i ymatal rhag mynegi’u hemosiynau, i fod yn galed â’u hunain ac i beidio ag amlygu’r hyn sy’n eu calonnau. Ond wedi i chi ddioddef colli rhywun annwyl, oes rhywbeth allan o’i le rywsut mewn rhoi mynegiant i dristwch eich galar? Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud?

Y Rhai A Wylodd yn y Beibl

Fe ysgrifennwyd y Beibl gan Hebreaid o ardal glannau dwyreiniol Môr y Canoldir, oedd yn bobl oedd wedi arfer rhoi llwyr fynegiant i’w teimladau. Mae e’n cynnwys llawer enghraifft o unigolion a ddangosodd dristwch eu galar yn agored. Fe alarodd y Brenin Dafydd oherwydd colli ei fab Amnon a lofruddiwyd. I ddweud y gwir, ’roedd “yn wylo’n chwerw.” (2 Samuel 13:28-39) Fe dristaodd yn fawr hyd yn oed o golli’i fab twyllodrus Absalom, a oedd wedi ceisio cipio’r frenhiniaeth. Mae cofnod y Beibl yn dweud wrthyn ni: “Cynhyrfodd y brenin [Dafydd], ac aeth i fyny i’r llofft uwchben y porth ac wylo; ac wrth fynd, yr oedd yn dweud fel hyn, ‘O Absalom fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi cael marw yn dy le, O Absalom fy mab, fy mab!’” (2 Samuel 18:33) Fe alarodd Dafydd fel unrhyw dad normal. A sawl gwaith mae rhieni wedi dymuno cael marw yn lle eu plant! Mae’n ymddangos mor annaturiol i blentyn farw o flaen rhiant.

Sut ymatebodd Iesu i farw ei gyfaill Lasarus? Fe wylodd e wrth agosáu at ei fedd. (Ioan 11:30-38) Yn ddiweddarach, fe wylodd Mair Magdalen wrth iddi agosáu at feddrod Iesu. (Ioan 20:11-16) Mae’n wir nad ydi Cristion sydd â dealltwriaeth ynglŷn â gobaith y Beibl am yr atgyfodiad, yn tristáu gymaint fel nad oes cysuro arno, fel y gwna rhai nad oes ganddyn’ nhw sail Feiblaidd eglur am yr hyn a gredant ynglŷn â chyflwr y meirw. Ond ac yntau’n fod dynol a chanddo deimladau normal, mae’r gwir Gristion, hyd yn oed â gobaith yr atgyfodiad ganddo, yn tristáu’n fawr ac yn galaru oherwydd colli unrhyw un sy’n annwyl iddo.—1 Thesaloniaid 4:13, 14.

Wylo neu Beidio

Beth am ein hymateb ni heddiw? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd i ddangos eich teimladau, neu’n teimlo’n chwithig o wneud hynny? Beth mae cynghorwyr yn ei gymeradwyo? Yn aml yr hyn a wna eu hagweddau modern nhw ydi dim ond adleisio doethineb ysbrydoledig y Beibl. Maen’ nhw’n dweud y dylen ni roi mynegiant i dristwch ein galar, nid ei atal. Mae hyn yn ein hatgoffa ni am wŷr ffyddlon gynt, megis Job, Dafydd, a Jeremeia, y gwelir yn y Beibl fel ’roedden’ nhw’n mynegi tristwch eu galar. Yn bendant ’doedden nhw ddim yn cadw’u teimladau iddyn’ nhw’u hunain. Felly, peth annoeth ydi torri’ch cysylltiad â phobl. (Diarhebion 18:1) Wrth gwrs, mae gan ddiwylliannau gwahanol ffyrdd gwahanol o roi mynegiant i’w galar, a hynny’n dibynnu hefyd ar gredoau crefyddol y pryd.a

Beth os ydych chi’n teimlo fel wylo? Mae’n rhan o’r natur ddynol i wylo. Ystyriwch eto achlysur marw Lasarus, pan ‘gynhyrfwyd ysbryd Iesu . . . a thorrodd i wylo.’ (Ioan 11:33, 35) Fe ddangosodd e felly fod wylo yn ymateb normal i farw anwylyn.

Pobl yn galaru

Peth normal ydi galaru ac wylo pan fo anwylyn yn marw

Fe gefnogir hyn gan achos mam, Anne, a oedd wedi colli ei babi Rachel oherwydd SMSB (Syndrom Marw Sydyn Baban). Dyma sylw ei gŵr: “Y peth rhyfedd oedd na chriodd Anne na minnau yn yr angladd. ’Roedd pawb arall yn wylo.” Fe ymatebodd Anne i hyn: “Gwir, ond ’rydw i wedi crio digon droson ni’n dau. ’Rwy’n credu iddo fy nharo yn go iawn ychydig wythnosau wedi’r drasiedi, pan ’roeddwn un diwrnod o’r diwedd ar fy mhen fy hun yn y tŷ. Fe griais drwy’r dydd ar ei hyd. Ond ’rwy’n credu i hynny fy helpu. ’Roeddwn yn teimlo’n well wedi gwneud. ’Roedd yn rhaid i mi roi mynegiant i alar colli fy mabi. ’Rydw i’n wirioneddol gredu y dylech chi ganiatáu i bobl sy’n galaru wylo. Er mai ymateb naturiol ydi i eraill ddweud, ‘Peidiwch â chrio,’ ’dyw hynny ddim yn helpu mewn gwirionedd.”

Sut Mae Rhai yn Ymateb

Sut mae rhai wedi ymateb wedi iddyn’ nhw dorri’u calonnau’n lân oherwydd colli anwylyn? Er enghraifft, ystyriwch Juanita. Fe ŵyr hi sut deimlad ydi colli babi. Bum gwaith ’roedd hi wedi colli babi cyn ei eni. ’Nawr ’roedd hi’n feichiog eto. Felly pan achosodd damwain car iddi orfod aros cyfnod yn yr ysbyty, ’roedd hi’n naturiol yn bryderus. Bythefnos yn ddiweddarach daeth gwewyr esgor arni—cyn ei hamser. Yn fuan wedyn ganed Vanessa fach—yn pwyso ychydig dros ddeubwys. “’Roeddwn i wrth fy modd,” atgofia Juanita. “O’r diwedd mi roeddwn i’n fam!”

Ond byr oedd ei hapusrwydd. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach bu farw Vanessa. Meddai Juanita gan atgofio: “’Roeddwn i’n teimlo mor wag. Fe gymerwyd fy mamolaeth oddi arnaf. ’Roeddwn i’n teimlo’n anghyflawn. Mor boenus oedd dychwelyd adre’ i’r ystafell ’roedden ni wedi’i pharatoi ar gyfer Vanessa ac i edrych ar y dillad isa’ bach ’roeddwn i wedi’u prynu ar ei chyfer hi. Am y mis neu ddau canlynol, ’roeddwn i’n ail fyw dydd ei geni hi. ’Doeddwn i ddim eisiau gwneud dim â neb.”

Ymateb eithafol? Efallai ei bod hi’n anodd i eraill ddeall, ond y mae’r rheiny, fel Juanita, sydd wedi byw trwy’r fath brofiad yn egluro iddyn’ nhw alaru’n hiraethus am eu babi yn union fel y bydden’ nhw am rywun a oedd wedi byw am beth amser. Maen’ nhw’n dweud, y cerir plentyn gan ei rieni ymhell cyn ei eni. Mae ’na asio agos arbennig gyda’r fam. Pan fo’r babi hwnnw’n marw, mae’r fam yn teimlo fod person real wedi’i golli. A hynny sydd angen i eraill ei ddeall.

Sut y Gall Dicter ac Euogrwydd Effeithio Arnoch Chi

Fe fynegodd mam arall ei theimladau pan ddywedwyd wrthi i’w mab chwe mlwydd oed farw’n annisgwyl oherwydd problem gynhwynol â’i galon. “Fe brofais i un ymateb ar ôl y llall—fferdod, methu credu, euogrwydd, a dicter tuag at fy ngŵr a’r meddyg am beidio â sylweddoli mor ddifrifol oedd ei gyflwr e.”

Gall dicter fod yn arwydd arall o boen galar. Dicter at feddygon a nyrsus efallai, yn teimlo y gallen’ nhw fod wedi gwneud rhagor i ofalu am yr un marw. Neu fe all fod yn ddicter at gyfeillion a pherthnasau sydd, mae’n ymddangos, yn dweud neu yn gwneud y peth anghywir. Mae rhai yn digio wrth yr ymadawedig am anwybyddu’i iechyd. Mae Stella’n atgofio: “Rydw i’n cofio bod yn ddig gyda’m gŵr oherwydd fe wyddwn y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol. ’Roedd e wedi bod yn wael iawn, ond ’roedd e wedi anwybyddu rhybuddion y meddyg.” Ac weithiau mae ’na ddicter at yr ymadawedig oherwydd y beichiau a ddaw i ran y goroeswr yn sgîl y farwolaeth.

Mae rhai yn teimlo’n euog oherwydd dicter—hynny ydi, efallai eu bod nhw’n eu condemnio’u hunain am eu bod nhw’n teimlo’n ddig. Mae eraill yn eu beio’u hunain am farwolaeth eu hanwylyn. “’Fyddai e ddim wedi marw,” maen’ nhw’n eu hargyhoeddi eu hunain, “petawn i ’mond wedi ei orfodi i fynd at y meddyg yn gynt” neu “ei orfodi i weld meddyg arall” neu “ei orfodi i ofalu am ei iechyd yn well.”

Mam yn cofio rhoi cwtsh i’w phlentyn

Trawma ofnadwy ydi colli plentyn—fe all cydymdeimlad ac empathi diffuant helpu’r rhieni

I eraill mae’r euogrwydd yn mynd ymhellach na hynny, yn enwedig os bu i’w hanwylyn farw’n sydyn, annisgwyl. Maen’ nhw’n dechrau atgofio’r adegau pan fuon’ nhw’n ddig wrth yr ymadawedig, neu pan fuon’ nhw’n dadlau ag e. Neu fe all eu bod nhw’n teimlo na fuon’ nhw yn hollol yr hyn y dylen’ nhw fod wedi bod i’r ymadawedig.

Mae proses alaru a hiraethu hir llawer mam yn cefnogi’r hyn a ddywed llawer arbenigwr, fod colli plentyn yn gadael bwlch parhaol ym mywyd y rhieni, ac mae hynny’n arbennig o wir am y fam.

Colli Priod

Mae colli priod yn fath arall o drawma, yn enwedig os bu i’r ddau fyw bywyd prysur gyda’i gilydd. Fe all olygu diwedd ar ddull o fywyd a rannwyd ganddyn’ nhw, ar deithio, gwaith, adloniant, a chyd-ddibyniaeth.

Mae Eunice yn egluro beth ddigwyddodd pan fu farw ei gŵr yn sydyn o drawiad ar y galon. “Am yr wythnos gynta’, ’roeddwn i mewn cyflwr o fferdod emosiynol, fel petawn i wedi peidio â bod. ’Fedrwn i ddim hyd yn oed flasu nac arogleuo. Eto ’roedd fy synnwyr rhesymeg i’n parhau ond fel petai e wedi’i ddatgysylltu. Oherwydd imi fod gyda’m gŵr wrth iddyn’ nhw geisio ei sefydlogi e gan ddefnyddio ACY (Adfywhau Calon-Ysgyfeiniol) a meddyginiaeth, ’wnes i ddim dioddef gan yr arwyddion gwadu arferol. Er hynny, ’roedd ’na deimlad dwys o rwystredigaeth, fel petawn i’n gwylio car yn mynd dros glogwyn a minnau’n methu â gwneud dim ynghylch y peth.”

’Wylodd hi? “Wrth gwrs y gwnes i, yn enwedig wrth ddarllen y cannoedd o gardiau cydymdeimlo a dderbyniais. Fe griais i uwchben bob un. Fe’m helpodd i wynebu gweddill y dydd. Ond ’fedrai dim helpu pan ofynnwyd i mi dro ar ôl tro sut ’roeddwn i’n teimlo. Yn amlwg, ’roeddwn i’n druenus.”

Beth helpodd Eunice i fyw drwy dristwch ei galar? “Heb i mi sylweddoli hynny, yn ddiarwybod i mi fy hun fe wnes i’r penderfyniad i fynd ymlaen â’m bywyd,” meddai hi. “Fodd bynnag, yr hyn sy’n dal i’m brifo i o hyd ydi cofio nad ydi fy ngŵr, oedd yn caru bywyd gymaint, ddim yma i’w fwynhau e.”

“Peidiwch â Gadael i Eraill Reoli . . . ”

Mae awduron Leavetaking—When and How to Say Goodbye yn cynghori: “Peidiwch â gadael i eraill reoli sut y dylech chi weithredu neu deimlo. Mae’r broses alaru yn gweithio’n wahanol i bawb. Fe all eraill feddwl—a rhoi gwybod i chi eu bod nhw’n meddwl—eich bod yn hiraethu gormod mewn galar neu dim digon. Maddeuwch iddyn’ nhw ac anghofiwch am y peth. Wrth geisio’ch gorfodi’ch hun i ffitio patrwm a grewyd gan eraill neu gan gymdeithas yn gyffredinol, ’rydych chi’n rhwystro’ch twf tuag at adfer iechyd emosiynol.”

Wrth gwrs, mae gwahanol bobl yn trin poen eu galar mewn ffyrdd gwahanol. ’Dydyn ni ddim yn ceisio awgrymu fod un ffordd o angenrheidrwydd yn well nag un arall ar gyfer pob unigolyn. Fodd bynnag, mae perygl pan fo’r emosiwn yn sefyll yn hir yn ei unfan, a’r person sy’n dioddef mewn galar yn methu â derbyn realiti’r sefyllfa. Yna fe all y bydd angen help gan ffrindiau tosturiol. Mae’r Beibl yn dweud: “Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser; ar gyfer adfyd y genir brawd.” Felly peidiwch â bod ofn wylo, a cheisio help a siarad.—Diarhebion 17:17.

Mae hiraethu mewn galar yn ymateb naturiol i golled, a ’does ’na ddim o’i le i’ch galar chi fod yn amlwg i bawb. Ond mae ’na gwestiynau pellach y mae angen eu hateb nhw: ‘Sut fedra’i fyw gyda’m galar? Ai peth normal ydi teimlo’n euog a dig? Sut dylwn i ymdrin â’r ymatebion hyn? Beth all fy helpu i oddef y golled a’r galar?’ Fe fydd yr adran nesa’n ateb y cwestiynau hynny ac eraill.

a Er enghraifft, mae gan yr Yoruba-iaid yn Nigeria gred draddodiadol yn ailymgnawdoliad yr enaid. Felly pan fo mam yn colli plentyn, mae galar dwys am gyfnod byr yn unig, oherwydd fel mae dihareb Yoruba yn dweud: “Y dŵr a dywalltwyd. Ni thorrwyd mo’r calabash (llestr).” Yn ôl yr Yoruba-iaid, mae hyn yn golygu fod y calabash sy’n cario’r dŵr, y fam, yn medru cario plentyn arall—ailymgnawdoliad o’r un marw efallai. ’Dyw Tystion Jehofah ddim yn dilyn unrhyw draddodiadau sy’n seiliedig ar ofergoelion yn deillio o syniadau gau ynglŷn â’r enaid anfarwol ac ailymgnawdoliad, nad oes sail iddyn’ nhw yn y Beibl.—Pregethwr 9:5, 10; Eseciel 18:4, 20.

Cwestiynau i’w Hystyried

  • Sut mae diwylliant yn effeithio ar alaru rhai pobl?

  • Pa enghreifftiau sy’ gennyn ni yn y Beibl o rai roddodd fynegiant agored i dristwch eu galar?

  • Sut mae rhai wedi ymateb i golli anwylyn? Beth oedd eich ymateb chi mewn amgylchiadau tebyg?

  • Be’ sy’n gwneud colli priod yn fath gwahanol o brofiad?

  • Sut mae’r broses alaru yn gweithio? Oes rhywbeth o’i le mewn galaru’n hiraethus?

  • Nodwch rai agweddau ar y broses alaru. (Gweler bocs ar dudalen 9.)

  • Pa amgylchiadau arbennig sy’n effeithio ar rieni adeg marw sydyn baban? (Gweler bocs ar dudalen 12.)

  • Beth ydi effaith colli babi cyn ei eni neu farw-enedigaeth ar lawer o famau? (Gweler bocs ar dudalen 10.)

Y Broses Alaru

’Dyw’r gair “proses” ddim yn golygu fod galar yn dilyn unrhyw drefn neu raglen sefydlog. Fe all ymatebion galar orgyffwrdd ac amrywio o ran hyd, yn ôl yr unigolyn. ’Dyw’r rhestr hon ddim yn gyflawn. Efallai y bydd ymatebion eraill yn ymddangos hefyd. Dyma rai symptomau poen galar all ddod yn rhan o brofiad rhywun.

Ymatebion cynnar: Sioc cynta’; methu credu, gwadu; fferdod emosiynol; teimlo’n euog; dicter.

Fe all galar llym gynnwys: Colli cof a methu cysgu; lludded eithafol; newidiadau sydyn o ran tymer; barn a meddwl diffygiol; ysbeidiau o grio; chwant bwyd yn amrywio, gydag ennill neu golli pwysau yn dilyn; amrywiaeth o symptomau iechyd ansefydlog; syrthni; cyrhaeddiad gwaith yn lleihau; rhithweledigaethau—teimlo, clywed, gweld yr ymadawedig; wedi colli plentyn, cymryd yn erbyn eich priod yn gwbl ddireswm.

Cyfnod ymsefydlogi: Tristwch ynghyd â hiraeth; atgofion mwy dymunol am yr ymadawedig, gydag arlliw o hiwmor hyd yn oed.

Colli Babi Cyn ei Eni a Marw-eni—Mamau’n Hiraethu yn eu Galar

Er fod ganddi blant eraill eisoes, ’roedd Monna yn edrych ymlaen yn eiddgar at eni ei phlentyn nesa’ hi. Hyd yn oed cyn y geni, ’roedd e’n fabi ’roedd hi’n “chwarae ag e, yn siarad ag e, ac yn breuddwydio amdano.”

’Roedd y broses asio rhwng y fam a’r plentyn heb eto ei eni yn gry’. Fe ddywed hi ymhellach: “Babi oedd Rachel Anne fyddai’n cicio llyfrau oddi ar fy mol, yn fy nghadw i’n effro yn ystod y nos. ’Rwy’n dal i allu cofio’r ciciau bach cynta’, oedd fel gwthiadau tyner, annwyl. Bob tro y symudai hi, cawn fy llenwi â’r fath gariad. ’Roeddwn i’n ei ’nabod hi mor dda fel y gwyddwn i pan ’roedd hi mewn poen, pan oedd hi’n sâl.”

Fe â Monna ymlaen â’i hanes: “’Chredai’r meddyg mohono’ i nes ei bod hi’n rhy hwyr. Fe ddywedodd e wrthyf i beidio â phoeni. ’Rwy’n credu i mi ei theimlo hi’n marw. Fe droiodd hi drosodd yn wyllt rywsut. Drannoeth ’roedd hi’n farw.”

’Dyw profiad Monna ddim yn ddigwyddiad neilltuol. Yn ôl yr awduron Friedman a Gradstein, yn eu llyfr Surviving Pregnancy Loss, mae tua miliwn o wragedd y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau yn unig yn dioddef beichiogrwydd aflwyddiannus. Mae’r nifer byd eang yn llawer uwch, wrth gwrs.

Yn aml mae pobl yn methu sylweddoli fod colli babi cyn ei eni neu farw-enedigaeth yn drasiedi i fenyw ac yn un y mae’n ei gofio—am weddill ei bywyd efallai. Er enghraifft, mae Veronica, sy’ ’nawr dros ei hanner cant, yn atgofio colli ei babanod cyn eu geni ac yn cofio’n arbennig am y babi marw-anedig oedd yn fyw i mewn i’r nawfed mis ac a aned yn pwyso 13 pwys. Fe gariodd hi e’n farw y tu mewn iddi hi am y pythefnos ola’. Fe ddywedodd hi: “Mae esgor ar fabi marw yn beth erchyll i fam.”

’Dyw ymatebion y mamau rhwystredig hyn ddim bob amser yn cael ei ddeall, hyd yn oed gan wragedd eraill. Fe ysgrifennodd mam a gollodd ei phlentyn cyn ei eni: “Yr hyn ’rydw i wedi’i ddysgu mewn ffordd mwya’ poenus ydi nad oedd gennyf i’r syniad lleia’ cyn i hyn ddigwydd i mi, o’r hyn ’roedd yn rhaid i fy ffrindiau ei oddef. ’Roeddwn i wedi bod mor ddideimlad ac anwybodus tuag atyn’ nhw ag ’rydw i’n teimlo ’nawr y mae pobl tuag ata’ i.”

Cwpl yn galaru gyda’i gilydd

Problem arall i’r fam hiraethus ydi’r argraff nad ydi ei gŵr hi ddim yn teimlo’r golled fel y mae hi efallai. Fe fynegodd un wraig briod y peth fel hyn: “Ar y pryd ’roeddwn i’n gwbl siomedig yn fy ngŵr i. O’i ran e, ’doedd ’na ddim beichiogrwydd mewn gwirionedd. ’Fedrai e ddim profi’r galar ’roeddwn i’n ei deimlo. ’Roedd e’n cydymdeimlo’n fawr â’m hofnau i ond nid â’m galar i.”

Mae’r ymateb hwn yn un digon naturiol efallai i ŵr priod—’dyw e ddim yn mynd drwy’r un asio corfforol ac emosiynol â’i wraig feichiog. Er hynny, mae yntau’n teimlo colled. Ac mae’n hanfodol i’r gŵr a’r wraig sylweddoli eu bod nhw’n diodde’ ynghyd, ond mewn ffyrdd gwahanol. Fe ddylen’ nhw rannu’u galar. Os ydi’r gŵr yn ei guddio, feallai ei wraig dybio ei fod e’n ddideimlad. Felly rhannwch eich dagrau, eich meddyliau, a’ch cofleidio. Dangoswch fod arnoch chi angen eich gilydd fel erioed o’r blaen. Chi wŷr, dangoswch eich empathi chi.

Syndrom Marw Sydyn Baban—Wynebu Poen y Galar

Mae marw sydyn babi yn drasiedi niweidiol. Un diwrnod mae babi ymddangosiadol normal ac iach yn peidio â deffro. Mae hyn yn gwbl annisgwyl, oherwydd pwy sy’n dychmygu y bydd baban neu blentyn yn marw cyn ei rieni e? Mae babi sy’ wedi dod yn ganolbwynt cariad diderfyn mam yn sydyn yn ffocws ei galar diderfyn hi.

Mae teimladau euogrwydd yn dechrau llifo. Fe all y rhieni deimlo’n gyfrifol am y farwolaeth, fel petai esgeulustod ar eu rhan nhw’n gyfrifol. Maen’ nhw’n gofyn iddyn’ nhw eu hunain, ‘Be fedren ni fod wedi’i wneud i’w rhwystro?’b Yn rhai achosion fe allai’r gŵr, yn ddiarwybod iddo’i hun feio’i wraig hyd yn oed, heb unrhyw sail. Pan aeth e i’r gwaith, ’roedd y babi yn fyw ac yn iach. Pan gyrhaeddodd adre’, ’roedd e wedi marw yn ei grud! Beth oedd ei wraig yn ei wneud? Ble ’roedd hi ar y pryd? Mae’n rhaid ateb y cwestiynau poenus hyn fel nad ydyn’ nhw’n rhoi straen ar y briodas.

Amgylchiadau heb eu rhagweld ac na fedrid eu rhagweld nhw achosodd y drasiedi. Fe ddywed y Beibl: “Unwaith eto, dyma a sylwais dan yr haul: nid y cyflym sy’n ennill y ras, ac nid y cryf sy’n ennill y rhyfel; nid y doethion sy’n cael bwyd, nid y deallus sy’n cael cyfoeth, ac nid y rhai gwybodus sy’n cael ffafr. Hap a damwain sy’n digwydd iddynt i gyd.”—Pregethwr 9:11, ein llythrennau italaidd ni.

Sut medr eraill helpu pan fo teulu yn colli babi? Fe ymatebodd un fam alarus: “Fe ddaeth un ffrind a glanhau’r tŷ heb i mi orfod dweud gair. Fe wnaeth eraill brydau bwyd inni. Fe helpodd rhai drwy fy nghofleidio i—dim geiriau, dim ond fy nghofleidio i. ’Doeddwn i ddim eisiau siarad am y peth. ’Doeddwn i ddim eisiau gorfod egluro drosodd a throsodd be’ oedd wedi digwydd. ’Doedd dim angen cwestiynau busneslyd arna’ i, fel petawn i wedi methu â gwneud rhywbeth. Fi oedd y fam; fe fyddwn i wedi gwneud unrhyw beth i achub fy mabi i.”

b Syndrom Marw Sydyn Baban (SMSB), sy’n digwydd fel arfer ymhlith babanod rhwng mis a chwe mis oed, ydi’r ymadrodd a ddefnyddir pan fo babanod iach yn marw’n sydyn heb unrhyw achos i egluro’r peth. Yn rhai achosion fe gredir y gellir osgoi’r posibilrwydd, o roi’r babi i orwedd ar ei gefn neu ar ei ochr ond nid ar ei fol. Fodd bynnag, ’wnaiff dim un ffordd orwedd osgoi pob achos o SMSB.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu