Pennod 14
Awdurdod Pwy Ddylech Chi ei Gydnabod?
1, 2. Ydi pob ffurf ar awdurdod yn niweidiol? Eglurwch.
“AWDURDOD”—mae’n gas gan bobl glywed y gair, ac mae’n hawdd deall pam hefyd. Mae awdurdod yn cael ei gamddefnyddio’n aml—yn y gwaith, yn y teulu, a chan lywodraethau. Mae’r Beibl yn cydnabod y sefyllfa pan mae’n dweud fod “dyn yn arglwyddiaethu ar ei gyd-ddyn i beri niwed iddo.” (Pregethwr 8:9) Oes, mae llawer wedi arglwyddiaethu ar eraill yn greulon a hunanol.
2 Ond ’dydi pob awdurdod ddim yn niweidiol. Er enghraifft, byddwn yn ymateb i awdurdod ein corff sy’n ein “gorfodi” ni i anadlu, bwyta, yfed, a chysgu. Ydi hyn yn ormod? Nac ydi. Mae cydweithio â’r gofynion hyn, er efallai’n anwirfoddol, yn llesol inni. Ond mae ’na agweddau eraill ar awdurdod sy’n gofyn ein bod ni’n ymostwng iddyn’ nhw o’n gwirfodd. Ystyriwch rai enghreifftiau.
YR AWDURDOD GORUCHAF
3. Pam ei bod hi’n iawn galw Jehofah yn “Benllywydd”?
3 Yn The New World Translation of the Holy Scriptures mae Jehofah yn cael ei alw yn “Sovereign Lord” dros 300 o weithiau. (“Penllywydd,” Actau 4:24, BCN, a Datguddiad 6:10, BCN.) Penllywydd ydi un sydd â’r awdurdod goruchaf ganddo. Pam mae gan Jehofah yr hawl i’r statws yma? Mae Datguddiad 4:11 yn ateb: “Teilwng wyt ti, ein Harglwydd [“Jehofah,” NW] a’n Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu, oherwydd tydi a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.”
4. Sut mae Jehofah yn dewis gweithredu ei awdurdod?
4 Gan mai Jehofah yw’n Creawdwr, mae ganddo’r hawl i weithredu ei awdurdod fel mae’n dewis. Gall hyn ein dychryn ni, yn enwedig wrth gofio ‘maint nerth’ Duw. Mae e’n cael ei alw’n “Dduw Hollalluog”—ymadrodd Hebraeg sy’n cyfleu’r syniad o allu anorchfygol. (Eseia 40:26; Genesis 17:1) Ac eto, mae Jehofah bob amser yn dangos ei nerth mewn ffordd garedig, gan mai cariad yw ei brif nodwedd.—1 Ioan 4:16.
5. Pam nad ydi hi’n anodd ymostwng i awdurdod Jehofah?
5 Y “Duw sydd Dduw” oedd Jehofah i Moses, “Duw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb . . . gyda’r rhai sy’n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,” a hyn er Iddo ddweud y byddai’n cosbi drwgweithredwyr diedifar. (Deuteronomium 7:9) Meddyliwch! Awdurdod Goruchaf y bydysawd yn ei gariad yn ein gwahodd ni i’w was’naethu, nid ein gorfodi. Mae ei gariad yn ein denu ni ato. (Rhufeiniaid 2:4; 5:8) Yn wir, mae ymostwng i awdurdod Jehofah yn bleser, gan fod ei gyfreithiau bob amser er ein lles.—Salm 19:7, 8.
6. Sut gododd y ddadl yng ngardd Eden ynglŷn ag awdurdod, a be’ oedd y canlyniad?
6 Mi wnaeth ein rhieni cynta’ ni wrthod penarglwyddiaeth Duw. ’Roedden’ nhw am benderfynu drostyn’ eu hunain be’ oedd yn dda a be’ oedd yn ddrwg. (Genesis 3:4-6) Y diwedd fu iddyn’ nhw gael eu gyrru allan o’u cartre’ Paradwys. Ar ôl hynny, gadodd Jehofah i fodau dynol weinyddu trefn ac awdurdod mewn cymdeithas oedd yn amherffaith. Be’ ’di rhai agweddau ar y drefn a’r awdurdodau hyn, ac i ba raddau mae Duw yn disgwyl inni ufuddhau iddyn’ nhw?
“YR AWDURDODAU SY’N BEN”
7. Pwy ydi’r “awdurdodau sy’n ben,” a be’ ’di’r berthynas rhwng eu safle nhw ac awdurdod Duw?
7 Fe ’sgrifennodd yr apostol Paul: “Y mae’n rhaid i bob dyn ymostwng i’r awdurdodau sy’n ben. Oherwydd nid oes awdurdod heb i Dduw ei sefydlu.” Pwy ydi’r “awdurdodau sy’n ben”? Yn ôl geiriau Paul yn yr adnodau sy’n dilyn, awdurdodau llywodraethol dynol sy’ dan sylw yma. (Rhufeiniaid 13:1-7; Titus 3:1) Nid Jehofah roddodd gychwyn i’r awdurdodau hyn, ond mae e’n gadael iddyn’ nhw lywodraethu. Dyna ystyr geiriau nesa’ Paul: “Y mae’r awdurdodau sydd ohoni wedi eu sefydlu gan Dduw.” Be’ mae hyn yn ei ddangos inni am y fath awdurdod ar y ddaear? Ei fod yn atebol i awdurdod Duw. (Ioan 19:10, 11) Felly, pan mae cyfraith dyn a chyfraith Duw yn gwrthdaro, mae Cristnogion yn dilyn arweiniad cydwybod wedi’i hyfforddi gan y Beibl. “Rhaid” iddyn’ nhw “ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:29.
8. Sut ’rydych chi’n elwa o’r awdurdodau sy’n ben, a sut medrwch chi ymostwng iddyn’ nhw?
8 Ond fel arfer, mae’r awdurdodau sy’n ben yn gweithredu fel ‘gwas Duw, yn gweini arnom er ein lles.’ (Rhufeiniad 13:4) Sut? Meddyliwch am y gwahanol ffyrdd mae’r awdurdodau yn rhoi gwasanaeth inni, fel y post, yr heddlu, a’r gwasanaeth tân, glanweithdra a charthffosiaeth, ac addysg. “Dyma pam hefyd yr ydych yn talu trethi,” meddai Paul, “oherwydd gwasanaethu Duw y mae’r awdurdodau wrth fod yn ddyfal yn y gwaith hwn.” (Rhufeiniaid 13:6) Fe ddylem ni “ymddwyn yn iawn” ac yn onest o ran talu trethi ac unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol arall.—Hebreaid 13:18.
9, 10. (a) Be’ ’di lle’r awdurdodau sy’n ben yn nhrefn Duw? (b) Pam na fyddai’n iawn gwrthwynebu’r awdurdodau sy’n ben?
9 Weithiau mae’r awdurdodau sy’n ben yn camddefnyddio’u grym. Ydi hyn yn golygu nad oes rhaid inni ymostwng iddyn’ nhw’r pryd hynny? Nac ydi. Mae Jehofah yn gweld drwgweithredu’r awdurdodau hyn. (Diarhebion 15:3) Er ei fod e’n caniatáu rheoli gan ddyn, mae e’n gweld llygredd y gweinyddu. ’Dyw e ddim am i ni fod yn debyg iddyn’ nhw. Yn wir, cyn bo hir, bydd Duw yn “dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill,” ac yn eu lle sefydlu arglwyddiaeth ei lywodraeth gyfiawn. (Daniel 2:44) Ond yn y cyfamser, mae’r gwasanaeth maen’ nhw’n ei gynnig yn ddefnyddiol inni.
10 Dyma fel mae Paul yn esbonio: “Y mae’r sawl sy’n gwrthsefyll y fath awdurdod yn gwrthwynebu sefydliad sydd o Dduw.” (Rhufeiniaid 13:2) Duw sy’ wedi ‘sefydlu’ yr awdurdodau sy’n ben yn yr ystyr eu bod nhw’n cadw trefn ar gymdeithas yn hytrach na bod anarchiaeth yn rheoli. Peth annoeth fyddai eu gwrthwynebu, ac anysgrythurol hefyd. Ystyriwch am funud y pwythau sy’ mor angenrheidiol wedi i chi gael triniaeth lawfeddygol. ’Dydyn nhw ddim yn rhan naturiol o’r corff, ac eto maen’ nhw’n gwneud gwaith da dros dro i gau’r briw. Peth annoeth fyddai eu tynnu nhw cyn iddyn’ nhw wneud eu gwaith. Mewn ffordd debyg mae awdurdodau llywodraethol dyn, er nad ydyn’ nhw’n rhan o fwriad gwreiddiol Duw, yn llenwi bwlch dros dro, yn ôl ei ewyllys, i gadw trefn ar gymdeithas nes bydd ei Deyrnas yn llywodraethu dros y ddaear gyfan. Fe ddylem ni felly, ymostwng i’r awdurdodau sy’n ben, ond ar yr un pryd, roi’r lle blaenaf i gyfraith ac awdurdod Duw.
AWDURDOD YN Y TEULU
11. Sut fyddech chi’n esbonio egwyddor penteuluaeth?
11 Y teulu ydi uned fwyaf pwysig cymdeithas. O fewn fframwaith y teulu mae gŵr a gwraig yn medru mwynhau cwmni ei gilydd, ac mae plant yn cael eu diogelu a’u hyfforddi wrth iddyn’ nhw dyfu i fyny. (Diarhebion 5:15-21; Effesiaid 6:1-4) Trwy gynnig egwyddor penteuluaeth mae Jehofah yn gosod trefn fydd yn caniatáu i aelodau’r teulu gyd-fyw mewn heddwch a harmoni—fel mae 1 Corinthiaid 11:3 yn dweud, “Pen pob gŵr yw Crist, . . . pen y wraig yw’r gŵr, . . . pen Crist yw Duw.”
12, 13. Pwy ydi’r penteulu, a be’ fedrwn ni ei ddysgu o ffordd Iesu o weithredu penteuluaeth?
12 Y gŵr ydi’r penteulu. Ond, mae un yn ben arno fe—Iesu Grist. Fe ’sgrifennodd Paul: “Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau’r eglwys [“y gynulleidfa,” NW] a’i roi ei hun drosti.” (Effesiaid 5:25) Mae’r gŵr yn dangos ei fod e’n ddarostyngedig i Grist os ydi e’n trin ei wraig fel mae Iesu’n gofalu am y gynulleidfa. (1 Ioan 2:6) Er fod Iesu wedi’i ddyrchafu’n uchel, mae e mor addfwyn, mor gariadus, ac mor rhesymol wrth weithredu’r awdurdod sy’ ganddo. (Mathew 20:25-28) Pan ’roedd e’n ddyn, ’wnaeth Iesu erioed gamddefnyddio’i awdurdod. ’Roedd e’n “addfwyn . . . a gostyngedig o galon.” “Cyfeillion” oedd ei ganlynwyr iddo, nid “gweision.” “Fe roddaf fi orffwystra i chwi” oedd ei addewid, a dyna wnaeth e.—Mathew 11:28, 29; Ioan 15:15.
13 Mae pob gŵr yn dysgu o esiampl Iesu mai parch a chariad hunanaberthol ydi amcan penteuluaeth Cristnogol nid cyfle i dra-awdurdodi dros bawb. Mae’n amlwg felly fod camdrin cymar yn gorfforol neu â geiriau yn annerbyniol. (Effesiaid 4:29, 31, 32; 5:28, 29; Colosiaid 3:19) Petai dyn o Gristion yn camdrin ei wraig fel hyn, fyddai ’na ddim gwerth o gwbl i’w weithredoedd da, a byddai rhwystr ar ei weddïau.—1 Corinthiaid 13:1-3; 1 Pedr 3:7.
14, 15. Sut mae’r wybodaeth o Dduw yn helpu gwraig i ymostwng i’w gŵr?
14 Pan mae’r gŵr yn dilyn esiampl Crist mae’n hawdd i’w wraig ymddwyn yn ôl y geiriau yn Effesiaid 5:22, 23: “Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i’ch gwŷr fel i’r Arglwydd; oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys.” Fel mae gofyn i’r gŵr ymostwng i Grist, mae’r wraig hithau i fod yn ddarostyngedig i’w gŵr. Mae’n amlwg o ddarllen y Beibl fod gwraig fedrus yn haeddu anrhydedd a chlod am ei doethineb duwiol a’i diwydrwydd.—Diarhebion 31:10-31.
15 Ufudd-dod cymharol ydi ufudd-dod y wraig i’w gŵr. Mae hyn yn golygu petai disgwyl iddi wneud rhywbeth fyddai’n groes i’r gyfraith ddwyfol, ufuddhau i Dduw fyddai hi yn hytrach nag i ddyn, ond gwneud ei safiad gydag “ysbryd addfwyn a thawel.” Fe ddylai fod yn amlwg fod y wybodaeth o Dduw wedi ei gwneud hi’n well gwraig. (1 Pedr 3:1-4) Fe fyddai hyn yn wir hefyd os y gŵr ydi’r Cristion a’r wraig ydi’r anghredadun. Fe ddylai byw yn ôl egwyddorion y Beibl ei wneud yn well gŵr.
16. Sut gall plant fod yn debyg i Iesu pan oedd e’n fachgen?
16 Mae Effesiaid 6:1 yn sôn am rôl y plant: “Ufuddhewch i’ch rhieni yn yr Arglwydd, oherwydd hyn sydd iawn.” ’Roedd Iesu’n ufudd i’w rieni wrth dyfu i fyny, ac mae plant sy’n Gristnogion yn dilyn ei esiampl. Ac yntau’n fachgen ufudd, ’roedd e’n “cynyddu mewn doethineb, a maintioli, a ffafr gyda Duw a dynion.”—Luc 2:51, 52.
17. Pa effaith sy’ gan rieni ar eu plant yn y ffordd maen’ nhw’n gweithredu awdurdod?
17 Mae’r ffordd mae rhieni’n gofalu am eu cyfrifoldebau i bob pwrpas yn penderfynu agwedd y plant at awdurdod—parch neu wrthryfel. (Diarhebion 22:6) Peth da fyddai i rieni ofyn, ‘Sut ydw i’n ymddwyn tuag at fy mhlant, yn gariadus neu’n galed? Ydw i’n caniatáu iddyn’ nhw wneud pob dim maen’ nhw eisiau?’ Tra mae disgwyl i riant duwiol fod yn gariadus ac ystyriol, rhaid hefyd gadw at egwyddorion duwiol. Ar y pwnc hwn fe ’sgrifennodd Paul: “Chwi dadau, peidiwch â chythruddo’ch plant, ond eu meithrin yn nisgyblaeth a hyfforddiant yr Arglwydd [“Jehofah,” NW].”—Effesiaid 6:4; Colosiaid 3:21.
18. Sut ddylai rhiant ddisgyblu?
18 Mae’n bwysig i rieni feddwl yn ofalus sut maen’ nhw’n hyfforddi’u plant, yn enwedig os ydyn’ nhw am gael y llawenydd sy’n dod o fagu plant ufudd. (Diarhebion 23:24, 25) Ystyr disgyblu yn y Beibl ydi cyfarwyddo, a hynny gyda chariad ac addfwynder, nid â thymer drwg ac yn greulon. (Diarhebion 4:1; 8:33) Mae rhieni Cristnogol doeth, felly, yn cadw rheolaeth arnyn’ nhw eu hunain wrth ddisgyblu eu plant.—Diarhebion 1:7.
AWDURDOD YN Y GYNULLEIDFA
19. Sut mae Duw wedi darparu trefn dda ar gyfer y gynulleidfa Gristnogol?
19 Gan mai Duw sy’n gweithredu yn ôl trefn ydi Jehofah, mae’n rhesymol y byddai’n darparu arweiniad cadarn a threfnus ar gyfer ei bobl. Dyna pam mae e wedi penodi Iesu yn Ben ar y gynulleidfa Gristnogol. (1 Corinthiaid 14:33, 40; Effesiaid 1:20-23) Dan arweiniad anweledig Crist mae Duw wedi trefnu bod henuriaid yn cael eu penodi ym mhob cynulleidfa, dynion sydd o’u gwirfodd yn eiddgar i fugeilio’r praidd mewn cariad. (1 Pedr 5:2, 3) I’w helpu nhw yn hyn o beth mae ’na weision gweinidogaethol sy’n gwas’naethu’r gynulleidfa mewn ffordd adeiladol dros ben.—Philipiaid 1:1.
20. Pam ddylem ni ymostwng i henuriaid Cristnogol sy’ wedi’u penodi, a pham mae hyn yn llesol?
20 Wrth drafod henuriaid Cristnogol, fe ’sgrifennodd Paul: “Ufuddhewch i’ch arweinwyr, ac ildiwch iddynt, oherwydd y maent hwy’n gwylio’n ddiorffwys dros eich eneidiau, fel rhai sydd i roi cyfrif amdanoch. Gadewch iddynt allu gwneud hynny’n llawen, ac nid yn ofidus, oherwydd di-fudd i chwi fyddai hynny.” (Hebreaid 13:17) Yn ei ddoethineb, mae Duw wedi ymddiried i arolygwyr Cristnogol gyfrifoldeb gofalu am anghenion ysbrydol aelodau’r gynulleidfa. Nid dosbarth clerigol ydi’r henuriaid hyn. Gweision ydyn’ nhw a chaethweision Duw, yn gwas’naethu anghenion eu cydaddolwyr fel gwnaeth ein Meistr, Iesu Grist. (Ioan 10:14, 15) Mae gwybod fod dynion sy’n gymwys yn ôl yr Ysgrythurau yn cymryd diddordeb yn ein tyfiant a’n cynnydd ysbrydol yn ein gwneud ni’n fwy parod i ymostwng a chydweithio.—1 Corinthiaid 16:16.
21. Sut mae henuriaid apwyntiedig yn ceisio helpu cyd-Gristnogion yn ysbrydol?
21 Weithiau, mae dafad yn crwydro neu’n cael ei pheryglu gan elfennau niweidiol y byd. Dan arweiniad y Pen Bugail, mae henuriaid yn eu swydd fel bugeiliaid cynorthwyol yn ymateb i anghenion y rhai yn eu gofal gan roi sylw personol iddyn’ nhw. (1 Pedr 5:4) Maen’ nhw’n ymweld ag aelodau’r gynulleidfa gan gynnig gair o anogaeth iddyn’ nhw. O gofio fod y Diafol wrthi’n brysur yn gwneud pob dim i aflonyddu ar heddwch pobl Dduw, mae henuriaid yn dangos y ddoethineb oddi uchod wrth drin problemau sy’n codi. (Iago 3:17, 18) Maen’ nhw’n gweithio’n galed i helpu pawb i fyw’n gytûn ac maen’ nhw’n diogelu’r undod yn y ffydd y gweddïodd Iesu amdano.—Ioan 17:20-22; 1 Corinthiaid 1:10.
22. Sut mae’r henuriaid yn medru helpu gydag achosion o ddrwgweithredu?
22 Beth os daw adfyd i ran Cristion, neu d’wedwch ei fod e’n digalonni oherwydd iddo bechu? Bydd cyngor y Beibl a gweddïau o’r galon gan yr henuriaid ar ei ran yn esmwytho’i boen ac yn ei helpu i ennill ei iechyd ysbrydol yn ôl. (Iago 5:13-15) Hefyd, mae gan y dynion hyn, dynion sy’ wedi cael eu penodi gan yr ysbryd sanctaidd, awdurdod i ddisgyblu a cheryddu unrhyw un sy’n drwgweithredu neu’n bygwth ysbrydolrwydd a glendid moesol y gynulleidfa. (Actau 20:28; Titus 1:9; 2:15) Er mwyn cadw’r gynulleidfa’n lân, ’falle bydd angen i unigolyn sôn wrth yr henuriaid am unrhyw ddrwgweithredu mawr. (Lefiticus 5:1) Fe fydd Cristion sy’ wedi pechu’n ddifrifol yn cael cynnig help ond iddo dderbyn disgyblaeth Ysgrythurol a cherydd a dangos gwir edifeirwch. Wrth gwrs, mae’n rhaid diarddel drwgweithredwyr diedifar, sy’n torri cyfraith Duw o hyd.—1 Corinthiaid 5:9-13.
23. Be’ sy’ gan arolygwyr Cristnogol i’w gynnig er lles y gynulleidfa?
23 Fe ragfynegodd y Beibl y byddai ’na, dan arolygiaeth Iesu Grist yn Frenin, ddynion ysbrydol aeddfed yn cael eu penodi i sicrhau y byddai cysur, diogelwch, a gorffwystra ar gael i bobl Dduw. (Eseia 32:1, 2) Fe fydden’ nhw ar y blaen yn efengylu, yn bugeilio, ac yn dysgu er mwyn hyrwyddo tyfiant ysbrydol. (Effesiaid 4:11, 12, 16) Er bod gofyn ar adegau i arolygwyr Cristnogol argyhoeddi, ceryddu, a chalonogi cyd-gredinwyr, mae gweithredu athrawiaeth iach yr henuriaid, sy’n seiliedig ar Air Duw, yn llesol i gadw pawb ar lwybr bywyd.—Diarhebion 3:11, 12; 6:23; Titus 2:1.
DERBYNIWCH AWDURDOD JEHOFAH
24. Pa bwnc sy’n rhoi prawf arnom ni bob dydd?
24 Y prawf ar y gŵr a’r wraig cynta’ oedd ymostwng i awdurdod. ’Dyw hi ddim yn syndod felly, fod prawf tebyg yn ein hwynebu ni bob dydd. Mae Satan y Diafol wedi codi ysbryd gwrthryfel yng nghalonnau dynion gan gynnig annibyniaeth fel dewis llawer mwy deniadol ac uwch nag ymostwng.—Effesiaid 2:2
25. Sut ’rydym ni’n elwa o ymwrthod ag ysbryd gwrthryfelgar y byd, ac ymostwng i awdurdod Duw neu’r awdurdod mae Duw yn ei ganiatáu?
25 Ond mae’n rhaid inni wrthod dylanwad ysbryd gwrthryfelgar y byd. Mae ymostyngiad duwiol yn dod â bendithion mawr. Er enghraifft, fe fyddwn ni’n osgoi’r pryder a’r siom sy’n brofiad y rhai mewn trwbwl o hyd gyda’r awdurdodau seciwlar. Fe fydd ’na lai o wrthdaro yn ein teulu ni. Fe fyddwn ni hefyd yn mwynhau bendithion brawdoliaeth gynnes a chariadus ein cyd-gredinwyr Cristnogol. Ond yn bwysicach na dim, fe fydd ein hymostyngiad duwiol yn sicrhau perthynas dda gyda Jehofah, yr Awdurdod Goruchaf.
RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH
Sut mae Jehofah yn gweithredu’i awdurdod?
Pwy ydi’r “awdurdodau sy’n ben,” a sut medrwn ni barhau’n ddarostyngedig iddyn’ nhw?
Pa gyfrifoldeb sy’ gan bob aelod o’r teulu yn ôl egwyddor penteuluaeth?
Sut medrwn ni ymostwng yn y gynulleidfa Gristnogol?
[Box on page 134]
YMOSTWNG, NID DYMCHWEL
Yn eu pregethu cyhoeddus mae Tystion Jehofah yn dangos mai Teyrnas Dduw ydi unig obaith gwir heddwch a diogelwch y ddynoliaeth. Er cymaint eu sêl wrth bregethu Teyrnas Dduw ’does ganddyn’ nhw ddim bwriad o gwbl i danseilio llywodraeth y wlad. I’r gwrthwyneb, mae’r Tystion yn ddinasyddion sy’n byw yn ôl cyfraith y wlad ac yn ei pharchu. Fe dd’wedodd swyddog yn un o wledydd Affrica, “Petai pob enwad crefyddol fel tystion Jehofah, fyddai ’na neb yn lladd, na dwyn, nac yn troseddu, fyddai ’na ddim angen carchar a fyddai ’na ddim bom atomig. Fyddai ddim rhaid cloi drysau ddydd ar ôl dydd.”
Gan gydnabod hyn, mae swyddogion llawer gwlad yn caniatáu i’r Tystion wneud eu gwaith pregethu heb rwystr. Mewn gwledydd eraill, pan mae’r awdurdodau’n dod i ddeall fod dylanwad Tystion Jehofah yn ddylanwad llesol, maen’ nhw’n symud pob gwaharddiad. Fel d’wedodd yr apostol Paul wrth annog bod yn ufudd i’r awdurdodau sy’n ben: “Gwna ddaioni, a chei glod ganddo.”—Rhufeiniaid 13:1, 3.