LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • rq gwers 1 t. 3
  • Sut Medrwch Chi Ganfod Beth Mae Duw yn ei Ofyn

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Medrwch Chi Ganfod Beth Mae Duw yn ei Ofyn
  • Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Erthyglau Tebyg
  • Neges Oddi Wrth Dduw Yw’r Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?
    Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Y Beibl—Llyfr Oddi Wrth Dduw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Beth Yw’r Beibl?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Gweld Mwy
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
rq gwers 1 t. 3

Gwers 1

Sut Medrwch Chi Ganfod Beth Mae Duw yn ei Ofyn

Pa wybodaeth bwysig a gynhwysir yn y Beibl? (1)

Pwy yw awdur y Beibl? (2)

Pam dylech chi astudio’r Beibl? (3)

1. Rhodd werthfawr oddi wrth Dduw ydi’r Beibl. Mae e’n debyg i lythyr oddi wrth dad cariadus i’w blant. Mae’n dweud y gwirionedd wrthym am Dduw—pwy ydi e a beth yw ei safonau. Mae e’n egluro sut i ymdopi â phroblemau a sut i ganfod gwir hapusrwydd. Y Beibl yn unig sy’n dweud wrthym beth y mae’n rhaid inni ei wneud i foddhau Duw.—Salmau 1:1-3; Eseia 48:17, 18.

2. Fe ysgrifennwyd y Beibl gan rhyw 40 o ddynion gwahanol dros gyfnod o 1,600 mlynedd, gan ddechrau yn 1513 C.C.C. (Cyn y Cyfnod Cyffredin) Mae e’n cynnwys 66 o lyfrau bach. ’Roedd y rhai a ysgrifennodd y Beibl wedi eu hysbrydoli gan Dduw. Fe fu iddyn’ nhw ysgrifennu ei feddyliau e, nid eu rhai eu hunain. Felly Duw yn y nefoedd, nid unrhyw fod dynol ar y ddaear, yw Awdur y Beibl.—2 Timotheus 3:16, 17; 2 Pedr 1:20, 21.

3. Fe sicrhaodd Duw fod y Beibl yn cael ei gopïo’n gywir a’i ddiogelu. Mae mwy o Feiblau wedi’u hargraffu nag unrhyw lyfr arall. ’Fydd pawb ddim yn hapus o’ch gweld chi’n astudio’r Beibl, ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro chi. Mae eich dyfodol tragwyddol yn dibynnu ar ddod i ’nabod Duw a gwneud ei ewyllys ef er gwaethaf unrhyw wrthwynebiad.—Mathew 5:10-12; Ioan 17:3.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu