LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 3 cwes. 1-4
  • Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Neges Oddi Wrth Dduw Yw’r Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Y Beibl—Llyfr Oddi Wrth Dduw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Sut Medrwch Chi Ganfod Beth Mae Duw yn ei Ofyn
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Beth Yw’r Beibl?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Gweld Mwy
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 3 cwes. 1-4

GWERS 3

Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?

1. Pwy yw Awdur y Beibl?

Sawl copi o’r Beibl a hen lawysgrifau’r Beibl

Mae’r newydd da am fywyd tragwyddol ar y ddaear wedi ei ysgrifennu yn y Beibl. (Salm 37:29) Casgliad o 66 llyfr yw’r Beibl. Defnyddiodd Duw ryw 40 o ddynion ffyddlon i ysgrifennu’r llyfrau hynny. Cafodd y pum llyfr cyntaf eu hysgrifennu gan Moses tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y llyfr olaf ei ysgrifennu gan yr apostol Ioan, dros 1,900 o flynyddoedd yn ôl. Ond syniadau pwy sydd yn y Beibl? Fe wnaeth Duw gyfathrebu â’r ysgrifenwyr hynny trwy gyfrwng yr ysbryd glân. (2 Samuel 23:2) Roedden nhw’n ysgrifennu meddyliau Duw yn hytrach na’u meddyliau nhw eu hunain. Jehofah, felly, yw Awdur y Beibl.​—Darllenwch 2 Timotheus 3:16; 2 Pedr 1:20, 21.

Gwyliwch y fideo Pwy Yw Awdur y Beibl?

2. Sut gallwn ni fod yn sicr fod y Beibl yn wir?

Rydyn ni’n gwybod bod y Beibl yn dod oddi wrth Dduw oherwydd ei fod yn rhagfynegi’r dyfodol yn fanwl gywir. Nid yw pobl yn medru gwneud hynny. (Josua 23:14) Dim ond Duw’r Hollalluog sy’n medru rhagweld dyfodol dyn yn gywir.​—Darllenwch Eseia 42:9; 46:10.

Bydden ni’n disgwyl i lyfr oddi wrth Dduw fod yn unigryw, a dyna’n union ydy’r Beibl. Mae biliynau o gopïau, mewn cannoedd o ieithoedd, wedi cael eu dosbarthu. Er ei fod yn hen lyfr, nid yw’r Beibl yn anghytuno â ffeithiau gwyddonol. Hefyd, dydy’r 40 o ysgrifenwyr ddim yn gwrth-ddweud ei gilydd.a Ar ben hynny, mae cariad Duw i’w weld yn eglur yn y Beibl. Mae’n gallu newid bywydau pobl er gwell. Oherwydd y ffeithiau hyn, mae miliynau o bobl yn derbyn y Beibl fel Gair Duw.​—Darllenwch 1 Thesaloniaid 2:13.

Gwyliwch y fideo Sut Gallwn Ni Fod yn Sicr Fod y Beibl yn Wir?

3. Beth yw thema’r Beibl?

Lluniau o’r Baradwys wreiddiol, colli’r Baradwys, Dilyw adeg Noa, Moses a’r 10 Gorchymyn, a Iesu yn dysgu’r bobl.

Thema ganolog y Beibl yw’r newyddion da am fwriad Duw ar gyfer dynolryw. Mae’r Ysgrythurau’n esbonio sut y collodd dyn y fraint o gael byw mewn paradwys ar y ddaear, a sut y bydd paradwys yn cael ei hadfer yn y dyfodol.​—Darllenwch Datguddiad 21:4, 5.

Mae Gair Duw hefyd yn cynnwys gorchmynion, egwyddorion, a chyngor. Mae’r Beibl yn dangos sut mae Duw yn ymdrin â phobl, ac yn datgelu natur Duw. Trwy ddarllen y Beibl, gallwch ddod i adnabod Duw a dysgu sut i ddod yn ffrind iddo.​—Darllenwch Salm 19:7, 11; Iago 2:23; 4:8.

4. Sut gallwch ddeall y Beibl?

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall y Beibl drwy ddilyn yr un dull yr oedd Iesu’n ei ddefnyddio. Roedd Iesu’n cyfeirio at wahanol rannau o’r Beibl er mwyn helpu pobl i “ddeall yr Ysgrythurau.”​—Darllenwch Luc 24:27, 45.

Y newydd da oddi wrth Dduw yw un o’r pethau mwyaf diddorol yn y byd. Ond eto, mae rhai pobl yn ddi-hid ac eraill yn cael eu cythruddo. Ond peidiwch â digalonni. Mae eich gobaith ynglŷn â bywyd tragwyddol yn dibynnu ar ddod i adnabod Duw.​—Darllenwch Ioan 17:3.

Am fwy o wybodaeth, gweler pennod 2 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

a Gweler y llyfryn Llyfr i Bawb.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu