GWERS 10
Sut i Ddod o hyd i’r Wir Grefydd
I fod yn ffrind i Dduw mae’n rhaid i chi fyw yn ôl y grefydd sy’n dderbyniol ganddo. Fe dd’wedodd Iesu mai “gwirionedd” fyddai sail addoliad “y gwir addolwyr.” (Ioan 4:23,24) Dim ond un ffordd sy’ ‘na i addoli Duw—y ffordd gywir. (Effesiaid 4:4-6) Mae gwir grefydd yn arwain at fywyd tragwyddol, a chrefydd gau yn arwain at ddistryw.—Mathew 7:13,14.
Mae pobl y wir grefydd yn hawdd eu ‘nabod yn y gymuned. Gan fod Jehofah yn ddaionus medrwn ddisgwyl y bydd gweithredoedd da yn amlwg ym mywyd ei wir addolwyr. Fel mae coeden iach yn cynhyrchu ffrwyth da, mae’r wir grefydd yn magu pobl dda.—Mathew 7:15-20.
Mae ffrindiau Jehofah yn parchu’r Beibl yn fawr. Maen’ nhw’n gwybod mai llyfr Duw ydi’r Beibl. Wrth wrando ar y geiriau sydd ynddo a cheisio byw yn ôl y cyfarwyddiadau hyn, mae Duw yn dod yn fwy real iddyn’ nhw, a phroblemau bywyd yn haws i’w trin. (2 Timotheus 3:16) Safonau’r Beibl ydi sail eu pregethu a’u byw.
Mae ffrindau Jehofah yn gweithredu’n gariadus tuag at ei gilydd. Fe ddangosodd Iesu ei gariad trwy ddysgu pobl am Dduw a gwella pobl sâl. Mae aelodau’r wir grefydd yn gweithredu’n gariadus at bobl eraill hefyd. Fel Iesu, maen’ nhw’n rhoi parch i’r tlawd a’r dieithryn beth bynnag fo’u hil. Dyma’r math o gariad oedd gan Iesu mewn golwg pan soniodd am sut i ‘nabod ei ddisgyblion.—Ioan 13:35.
Mae ffrindiau Duw yn anrhydeddu enw Duw, Jehofah. Petai rhywun yn gwrthod defnyddio’ch enw chi, allai hwnnw fod yn ffrind agos i chi? Na allai! ‘Rydym ni’n naturiol yn dweud enw’n ffrind ac yn siarad yn dda amdano wrth eraill. Mewn ffordd debyg, mae disgwyl i ffrindiau Duw ddefnyddio’i enw, a sgwrsio amdano wrth eraill. Dyna’n union mae Jehofah am inni’i wneud.—Mathew 6:9; Rhufeiniaid 10:13,14.
Fel Iesu, mae ffrindiau Duw yn sôn llawer wrth bobl am Deyrnas Dduw. Teyrnas Dduw ydi’r llywodraeth nefol fydd yn gwneud y ddaear yn baradwys. Mae ffrindiau Duw yn rhannu’r newydd da hyn ag eraill. —Mathew 24:14.
Mae Tystion Jehofah yn dymuno bod yn ffrindiau gyda Duw. Maen’ nhw’n parchu’r Beibl ac yn gweithredu’n gariadus tuag at ei gilydd. Maen’ nhw hefyd yn defnyddio enw Duw ac yn ei anrhydeddu, ac yn dysgu eraill am Deyrnas Dduw. Medrwch weld y wir grefydd ym mywyd Tystion Jehofah heddiw.