LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lv tt. 215-218
  • Ffracsiynau Gwaed a Llawdriniaethau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ffracsiynau Gwaed a Llawdriniaethau
  • “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Erthyglau Tebyg
  • Safbwynt Duw Tuag at Waed
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Cwestiynau Ein Darllenwyr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2004
  • Mae Duw yn Parchu Bywyd—Wyt Ti?
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Sut Ydw i’n Ystyried Ffracsiynau Gwaed a Thriniaethau Sy’n Defnyddio Fy Ngwaed Fy Hun?
    Ein Gweinidogaeth—2006
Gweld Mwy
“Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
lv tt. 215-218

ATODIAD

Ffracsiynau Gwaed a Llawdriniaethau

Ffracsiynau gwaed. Gellir defnyddio unrhyw un o brif gyfansoddion gwaed—celloedd coch, celloedd gwyn, platennau, neu blasma—i gynhyrchu ffracsiynau. Er enghraifft, mae’r celloedd coch yn cynnwys y protein hemoglobin. Mae meddygon yn defnyddio cynhyrchion sy’n dod o hemoglobin dynol neu o hemoglobin anifeiliaid i drin cleifion sydd ag anemia llym neu sydd wedi colli llawer iawn o waed.

Plasma. Mae 90 y cant o’r plasma yn ddŵr, ac mae’n cario nifer fawr o hormonau, halwynau anorganig, ensymau, a maetholion, gan gynnwys mwynau a siwgr. Mae’r plasma hefyd yn cario cyfryngau ceulo, gwrthgyrff sy’n ymladd afiechydon, a phroteinau fel albwmin. Yn achos rhai afiechydon, bydd meddygon yn cynnig pigiadau gama globwlin sy’n dod o blasma pobl sydd eisoes ag imiwnedd. Gall celloedd gwyn fod yn ffynhonnell interfferonau ac interliwcinau, sy’n cael eu defnyddio i drin rhai heintiau firaol a mathau o ganser.

A ddylai Cristnogion dderbyn triniaethau sy’n cynnwys ffracsiynau gwaed? Dydy’r Beibl ddim yn trafod hyn yn benodol, felly, mae’n rhaid i bob unigolyn benderfynu ar sail ei gydwybod gerbron Duw. Bydd rhai yn gwrthod ffracsiynau yn llwyr, gan resymu bod Cyfraith Duw i Israel yn mynnu bod y gwaed a gollwyd o gorff creadur yn cael ei ‘dywallt ar y ddaear.’ (Deuteronomium 12:22-24) Bydd eraill yn gwrthod trallwysiadau o waed cyfan neu o brif gyfansoddion gwaed, ond fe fyddan nhw’n barod i dderbyn ffracsiynau fel rhan o’u triniaeth. Iddyn nhw, nid yw’r ffracsiynau gwaed bellach yn cynrychioli bywyd y creadur y cymerwyd y gwaed ohono.

Wrth benderfynu ynglŷn â ffracsiynau gwaed, ystyria’r cwestiynau canlynol: Ydw i’n sylweddoli bod gwrthod pob ffracsiwn gwaed yn golygu gwrthod rhai meddyginiaethau sy’n cynnwys elfennau ar gyfer ymladd afiechydon neu sy’n medru stopio gwaedu drwy geulo’r gwaed? A allwn i esbonio wrth y meddyg fy rhesymau dros wrthod neu dderbyn un neu fwy o ffracsiynau gwaed?

Llawdriniaethau. Mae’r rhain yn cynnwys technegau hemowanedu (hemodilution) ac arbed celloedd. Yn ystod hemowanedu, mae gwaed yn cael ei ailgyfeirio a defnyddir hylif arall (volume expander) i gymryd ei le. Yna, mae’r gwaed yn cael ei ddychwelyd i’r claf. Mae technegau arbed celloedd yn dal y gwaed sy’n cael ei golli yn ystod llawdriniaeth. Caiff y gwaed ei gasglu o’r clwyf neu o geudod y corff a’i olchi neu ei hidlo, ac yna mae’n cael ei roi yn ôl i’r claf. Oherwydd na fydd pob meddyg yn defnyddio’r technegau hyn yn union yn yr un modd, dylai’r Cristion ofyn i’w feddyg beth sydd ganddo mewn golwg.

Wrth benderfynu ar y technegau hyn, gofynna i ti dy hun: ‘Petai peth o’m gwaed yn cael ei ddargyfeirio o’m corff, a’r llif efallai yn cael ei atal am gyfnod, a fyddai fy nghydwybod yn ystyried bod y gwaed hwnnw yn dal yn rhan ohonof, ac felly, na fyddai angen i’w ‘dywallt ar y ddaear’? (Deuteronomium 12:23, 24) Petai rhywfaint o’m gwaed yn cael ei dynnu allan yn ystod triniaeth feddygol, ac yn cael ei addasu a’i gyfeirio’n ôl i’m corff, a fyddai hynny yn poeni fy nghydwybod fel Cristion? Ydw i’n sylweddoli y byddai gwrthod pob un driniaeth feddygol sy’n defnyddio fy ngwaed fy hun yn golygu na fyddwn yn derbyn profion gwaed, na hemodialysis, na chymorth peiriant calon-ysgyfaint?’

Gwaed, ei brif gyfansoddion, a’r ffracsiynau gwaed

Rhaid i bob Cristion benderfynu drosto’i hun ynglŷn â’r hyn y mae’n fodlon caniatáu i feddygon ei wneud â’i waed ei hun yn ystod llawdriniaeth. Mae hyn yn wir hefyd yn achos profion meddygol a thriniaethau cyfredol sy’n gofyn am gymryd peth o waed yr unigolyn a’i addasu mewn rhyw ffordd cyn ei roi’n ôl drwy bigiad.

CWESTIYNAU AR GYFER DY FEDDYG

Os wyt ti’n wynebu llawdriniaeth neu driniaeth a all ddefnyddio cynnyrch gwaed, sicrha dy fod wedi cwblhau’r dogfennau cyfreithiol perthnasol, fel y Cyfarwyddyd Ymlaen Llaw ynglŷn â gofal iechyd sydd wedi ei gynllunio i’th ddiogelu rhag trallwysiad gwaed. Ar ben hynny, fe elli di ofyn y cwestiynau canlynol i’th feddyg:

  • Ydy pob un o’r staff meddygol a fydd yn fy nhrin yn gwybod na fyddaf, fel un o Dystion Jehofa, yn caniatáu unrhyw drallwysiad gwaed (sef gwaed cyfan, celloedd coch, celloedd gwyn, platennau neu blasma gwaed), dim ots beth yw’r amgylchiadau?

  • Os bydd meddyginiaeth sy’n cynnwys ffracsiynau gwaed yn cael ei chynnig, beth yw ei chynhwysion? Faint o’r feddyginiaeth a all gael ei defnyddio, ac ym mha ffordd?

  • Os yw fy nghydwybod yn caniatáu imi dderbyn ffracsiynau gwaed, beth fydd y peryglon meddygol? Oes triniaethau eraill ar gael?

Cyn i ti benderfynu ar unrhyw un o’r materion hyn, gweddïa ar Jehofa am dy bryderon. Y mae’n addo rhoi doethineb i’r rhai sy’n gofyn amdano mewn ffydd.—Iago 1:5, 6.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu