Sut Ydw i’n Ystyried Ffracsiynau Gwaed a Thriniaethau Sy’n Defnyddio Fy Ngwaed Fy Hun?
Mae’r Beibl yn gorchymyn Cristnogion i “wrthod. . . gwaed.” (Act. 15:20) Felly nid yw Tystion Jehofa yn derbyn trallwysiadau o waed cyfan neu o’r pedwar prif gyfansoddyn—sef, celloedd coch, celloedd gwyn, platennau, a phlasma. Hefyd, ni fyddan nhw’n rhoi gwaed, nac yn rhoi rhywfaint o’u gwaed ar gadw cyn cael llawdriniaeth eu hunain.—Lef. 17:13, 14; Act. 15:28, 29.
Beth yw ffracsiynau gwaed, a pham mae derbyn neu wrthod ffracsiynau yn benderfyniad personol i bob Cristion?
Mae ffracsiynau gwaed yn elfennau sy’n cael eu tynnu o waed drwy broses o’r enw ffracsiynu. Er enghraifft, mae modd rhannu plasma, sydd yn un o bedwar prif gyfansoddyn gwaed, yn nifer o sylweddau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys dŵr, tua 91 y cant; proteinau, fel albwmin, globwlin, a ffibrinogen, tua 7 y cant; a sylweddau eraill fel maetholion, hormonau, nwyon, fitaminau, cynnyrch gwastraff, ac electrolytau, tua 1.5 y cant.
A yw’r gorchymyn i wrthod gwaed hefyd yn cynnwys ffracsiynau gwaed? Ni allwn ddweud. Nid yw’r Beibl yn rhoi cyfarwyddyd penodol ynglŷn â ffracsiynau.a Wrth gwrs, mae llawer o ffracsiynau yn dod o waed sydd wedi ei roi at ddefnydd meddygol. Dylai pob Cristion ddilyn ei gydwybod wrth benderfynu a fydd yn derbyn neu’n gwrthod ffracsiynau at ddibenion meddygol.
Wrth benderfynu, ystyria’r cwestiynau canlynol: Ydw i’n sylweddoli bod gwrthod pob ffracsiwn gwaed yn golygu gwrthod rhai meddyginiaethau sydd yn ymladd yn erbyn firysau a chlefydau, neu sy’n helpu i geulo gwaed er mwyn atal gwaedu? A fyddwn i’n gallu esbonio i’r meddyg pam bydda i naill ai’n gwrthod neu’n derbyn rhai ffracsiynau gwaed?
Pam mai penderfyniad personol yw rhai triniaethau meddygol sy’n defnyddio fy ngwaed fy hun?
Ni fydd Cristnogion yn rhoi gwaed, nac yn trefnu i gadw eu gwaed eu hunain, ar gyfer trallwysiad. Sut bynnag, yn achos rhai triniaethau neu brofion sy’n ymwneud â gwaed yr unigolyn, nid yw’n amlwg a ydyn nhw’n mynd yn groes i egwyddorion y Beibl ai peidio. Felly dylai pob unigolyn ddilyn ei gydwybod ei hun wrth benderfynu gwrthod neu dderbyn rhai triniaethau meddygol sy’n defnyddio ei waed ei hun.
Wrth benderfynu, gofynna’r cwestiynau canlynol: ‘Petai rhywfaint o fy ngwaed yn cael ei ddargyfeirio o fy nghorff, a’r llif efallai yn cael ei atal am gyfnod, a fyddai fy nghydwybod yn ystyried bod y gwaed hwnnw yn dal yn rhan ohono i, ac felly, na fyddai angen i’w ‘dywallt ar lawr’? (Deut. 12:23, 24) Petai rhywfaint o fy ngwaed yn cael ei dynnu allan yn ystod triniaeth feddygol, ac yn cael ei addasu a’i gyfeirio yn ôl i fy nghorff, a fyddai hynny’n pwyso ar fy nghydwybod fel Cristion sy’n dilyn egwyddorion y Beibl? Ydw i’n sylweddoli y byddai gwrthod pob triniaeth feddygol sy’n defnyddio fy ngwaed fy hun yn golygu na fyddwn yn derbyn triniaethau fel dialysis, na chymorth peiriant calon-ysgyfaint?’ A ydw i wedi ystyried y mater yn ofalus a gweddïo amdano cyn gwneud penderfyniad?b
Beth yw fy mhenderfyniadau personol?
Ystyria’r ddwy daflen waith ar y tudalennau canlynol. Mae Taflen Waith 1 yn rhestru rhai o’r ffracsiynau sy’n cael eu cynhyrchu o waed, ac yn esbonio sut maen nhw’n cael eu defnyddio mewn gwahanol ddulliau meddygol. Noda dy ddewis personol o ran derbyn neu wrthod y ffracsiynau hyn. Mae Taflen Waith 2 yn rhestru rhai triniaethau meddygol cyffredin sy’n defnyddio gwaed y claf ei hun. Noda dy ddewis personol o ran derbyn neu wrthod y triniaethau hyn. Nid dogfennau cyfreithiol yw’r taflenni hyn, ond bydd dy atebion ar y taflenni yn dy helpu di i lenwi dy gerdyn Penderfyniad Ymlaen Llaw (Advance Decision). Mae’n bwysig iti benderfynu drostot ti dy hun yn hytrach na dilyn cydwybod rhywun arall. Yn yr un modd, ni ddylai neb feirniadu penderfyniad Cristion arall. Yn hyn o beth “bydd pob un yn cario ei lwyth ei hun.”—Gal. 6:4, 5.
b Ceir mwy o wybodaeth ar y pwnc hwn yn Rhifyn 15 Hydref, 2000, o’r Tŵr Gwylio Saesneg tudalennau 30-1, a Transfusion Alternatives—Documentary Series—On DVD.
cdefghijDalier Sylw: Mae’r ffordd mae’r triniaethau hyn yn cael eu defnyddio yn amrywio o feddyg i feddyg. Dylet ti ofyn i’r meddyg sydd yn dy drin esbonio yn union beth fydd yn digwydd mewn unrhyw driniaeth rwyt ti’n ei hystyried er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd ag egwyddorion y Beibl ac â’th benderfyniadau cydwybodol dy hun.