Cân 117
Rhaid Ein Dysgu
Fersiwn Printiedig
(Eseia 50:4; 54:13)
1. Deuwch yn llawen, a dysgwch am Jehofa.
‘Deuwch i’r dyfroedd, cymerwch, mae’n rhodd.’
Duw sy’n darparu lluniaeth ysbrydol,
Gwledd i’r newynog yw’r hyn baratôdd.
2. Boed in ymgynnull â’n cyd-addolwyr ffyddlon,
Yma fe ddysgwn uniondeb a moes.
Annog ein gilydd wnawn ar bob cyfle,
Dysg oleuedig ein Iôr inni roes.
3. Mawr yw’n hyfrydwch o glywed pêr folawdau!
Tafod dysgedig mawrygu wna Jah!
Boed inni wreiddio yn y frawdoliaeth,
Yng nghynulleidfa’r daionus a da!
(Gweler hefyd Heb. 10:24, 25; Dat. 22:17.)