Cân 26
Rhodio Gyda Duw!
(Micha 6:8)
1. Y bywyd duwiol dilyn wnawn,
A rhodio gyda Duw.
O lwyr ymostwng nerth a gawn;
Uniondeb, elw yw.
Fe geisia’r byd drwy lawer modd
O’r gwir ein denu draw.
Gair gloyw Duw ein bryd gyffrôdd,
Gafaelwn yn ei law.
2. Mewn purdeb rhodiwn gyda Duw,
Gan gadw’r drwg ymhell.
Anelwn at berffeithio’n byw
O’i ’nabod ef yn well.
Beth bynnag sydd yn hawddgar, pur,
Pob peth a haedda glod,
Myfyriwn ar y pethau hyn;
Bodloni Duw yw’n nod.
3. Yn ffyddlon rhodiwn gyda Duw.
Fe rydd ei ddeddfau sail
Duwioldeb glân, bodlonrwydd gwiw;
Trysorau teg di-ffael.
O rodio’n gywir, canu wnawn
Folawdau pêr i Jah.
Yng ngwaith y Deyrnas llawenhawn,
Ei llwydd a hir barha.
(Gweler hefyd Gen. 5:24; 6:9; Phil. 4:8; 1 Tim. 6:6-8.)