Cân 21
Gwyn Eu Byd y Rhai Trugarog!
1. Trugarog rai, O gwyn eu byd,
Jah arnynt eisoes roes ei fryd.
Â’r newydd da i’r byd yr ânt,
Am dirion Dduw pregethu wnânt.
Trugaredd Duw weithredodd Crist,
Y pridwerth dalodd, ffyddlon Dyst.
Trugaredd gaiff yr addfwyn rai—
Prydferthaf rinwedd yw’n ddiau.
2. Trugarog rai mawr fendith gânt,
Maddeuant parod Duw fwynhânt.
Crist, ymbil wna dros ddynolryw
Gerbron gorseddfainc cyfiawn Dduw.
Mawr angen am drugaredd sydd
Ar lu edifar byd di-fudd.
Gair cennad codi calon wna:
‘Teyrnasu mae Llywodraeth Jah.’
3. Yr ysbryd addfwyn, llesol yw;
Addurno mae ddysgeidiaeth Duw.
Fe gâr Jehofa’r addfwyn rai
Cans ynddynt ni cheir dim sy’n gau.
I feithrin rhinwedd wiw ymrown,
Yn debyg i Grist Iesu down.
Tosturiol byddwn, cariadlawn;
Canllawiau hyfryd dilyn wnawn.
(Gweler hefyd Luc 6:36; Rhuf. 12:8; Iago 2:13.)