Cân 100
Byddin Jehofa Ydym Ni!
(Joel 2:7)
1. Byddin Jehofa ydym,
Taenu’r Gair yw’n gwaith;
I’r byd â’n cenadwri:
‘Crist yn Frenin a ddaeth.’
Gwirfoddolwyr ydym oll,
Gweithio wnawn ynghyd;
Eofn, penderfynol,
Ar Dduw Jah mae’n bryd.
(CYTGAN)
Byddin Jehofa ydym,
Un â’i Grist, diau;
Llawen y cyhoeddwn,
‘Duw, teyrnasu mae.’
2. Ninnau ei weision teyrngar,
Chwilio’n gyson wnawn
Am ddefaid gwasgaredig;
Ar eu cri fe wrandawn.
Iddynt rhown anogaeth daer:
‘At Jah agosewch;
Neuadd deg y Deyrnas
Yw’n man c’far fod—Dewch!’
(CYTGAN)
Byddin Jehofa ydym,
Un â’i Grist, diau;
Llawen y cyhoeddwn,
‘Duw, teyrnasu mae.’
3. Rhoes Duw Jehofa’i fyddin
Dan arweiniad Crist.
Arfwisg ysbrydol wisgwn,
Yn ei reng pob un tyst.
Llesol fydd gweithredu pwyll—
Ein hamddiffyn wna;
Cadw rhaid uniondeb,
Llwydd a sicrha.
(CYTGAN)
Byddin Jehofa ydym,
Un â’i Grist, diau;
Llawen y cyhoeddwn,
‘Duw, teyrnasu mae.’
(Gweler hefyd Eff. 6:11, 14; Phil. 1:7; Philem. 2.)