Cân 31
Tystion Jehofa Ŷm Ni!
(Eseia 43:10-12)
1. Byd digred ar gynnydd mae,
Llunia dynion dduwiau gau.
‘Y Duw nid adwaenir’
Yw’r gwir Dduw’n ddiau.
Dynion, eu camarwain gânt
Gan gau dduwiau—gweld ni wnânt;
‘Tystion’ nid oes all gynnal eu ‘gair,’
Traha di-fudd a lyncodd dae’r.
(CYTGAN)
Tystion ydym i’r gwir Dduw—
Jah Jehofa, nerthol Lyw.
Dwyfol ddatganiad haedda fawr glod;
’R hyn dd’wed ei Air ddaw i fod.
2. D’enw Iôr a gaiff fawrhad,
Cyrraedd mae dy fri bob gwlad.
Grym ein cenadwri
Mawr yw’n ddiymwad.
At rai teilwng awn yn glou,
Bwriwn ati’n ddiymdroi;
Tyfu’n ysbrydol wnânt a chryfhau,
Deuant yn un o’r defaid rai.
(CYTGAN)
Tystion ydym i’r gwir Dduw—
Jah Jehofa, nerthol Lyw.
Dwyfol ddatganiad haedda fawr glod;
’R hyn dd’wed ei Air ddaw i fod.
3. Awn! Cyhoeddwn enw’n Iôr,
Aed ei fawl dros dir a môr.
Ni fydd i’r annuwiol
Noddfa, nawdd na dôr.
Pardwn gaiff ’r edifar un
Os â’r Gair byw wna’n gytûn.
Buan y daw llawenydd a hedd,
Byd o gyfiawnder, byd difedd.
(CYTGAN)
Tystion ydym i’r gwir Dduw—
Jah Jehofa, nerthol Lyw.
Dwyfol ddatganiad haedda fawr glod;
’R hyn dd’wed ei Air ddaw i fod.
(Gweler hefyd Esei. 37:19; 55:11; Esec. 3:19.)