Cân 48 (113)
Tystion Jehofah Ŷm Ni!
(Eseia 43:10-12)
1. Caeth yw dyn i dduwiau gau,
Cans gwell ganddo’i ddelwau clai
Na’r gwir Dduw Jehofah,
Brenin Mawr diau.
Duwiau gau ni fedrant weld
Na’r dyfodol ei ragweld.
Ni fedrant gynnal duwdod di-fudd,
Nid oes chwaith ganddynt dystion ffydd.
(Cytgan)
2. ‘Chwi nawr yw fy nhystion i,
Peidiwch ofni, byddwch hy.
Fi yw’ch Duw Jehofah,
Brenin o fawr fri.
Dewr Waredydd, ’r unig Dduw,
Hoff o ufudd ddynolryw.
Ewch i gyhoeddi f’enw a’m Gair;
Profwch mai chi yw ’nhystion taer.’
(Cytgan)
3. Anrhydeddwn enw Duw;
Rhybudd rown i bawb a glyw
Sy’n sarhau yr enw
Dyrchafedig, gwiw.
Achub wna’r edifar rai,
Trônt at Dduw sy’n trugarhau.
Wrth dystio profwn lawenydd nawr
A gobaith byw ar ddae’r fwynfawr.
(CYTGAN)
Tystion dewr Jehofah ŷm;
Ei ewyllys wnawn â grym.
Duw ragfynega rybudd o fudd;
Proffwydo mae’r hyn a fydd.