Cân 4
Gwneud Enw Da Gyda Duw
Fersiwn Printiedig
(Pregethwr 7:1)
1. O boed i’n dyddiau a’u holl orchwylion lu
Fod yn dderbyniol gerbron ein Duw a’n Rhi.
Os rhodio’n ufudd wnawn â chalon lân, uniawn,
Hyn wêl Jehofa, a’i wên a gawn.
2. Os ar y byd hwn a’i bleser rhown ein bryd,
Os ceisio fyddwn enwogrwydd ‘sêr’ a’u ‘hud,’
Oferedd fyddai hyn; Jehofa glendid fyn.
Yn effro cadwn, mae’r dyddiau’n brin.
3. Yn llyfr bywyd ein Duw dymunwn fod,
A gweld ein henw’n glir yno, boed ein nod.
Os gwarchod wnawn y ffydd, ymdrechu’n lew bob dydd,
Diau, ein henw’n ddiogel fydd.
(Gweler hefyd Gen. 11:4; Diar. 22:1; Mal. 3:16; Dat. 20:15.)