Cân 110
Mawrion Weithredoedd Duw
(Salm 139)
1. O Dduw, fe chwiliaist ac adnabod
Feddyliau cudd fy nghalon, a phob loes.
Amgylchu rwyt fy llwybr a’m preswylfod,
Cyfarwydd wyt â geiriau ’ngenau
i a’m moes.
Yn iselderau’r bru fe’m gweaist
 chymhlethdodau manwl, mawr a mân;
F’annelwig ddefnydd mor ddi-lun, fe’i lluniaist;
Perffeithlun dirgel ymddangosodd
fesul rhan.
Rhyfeddod gwaith dy ddwylo sy’n arswydus,
Rhy ddwfn i mi feddyliau uchel Duw;
Rhyfeddol ŷnt, lluosog a niferus,
Tu hwnt i ddirnad dyn a dynolryw.
Pwy all, Jehofa, ffoi o’th ysbryd?
Tywyllwch, hafddydd yw yn d’olwg di;
Cans cyrraedd fedri Sheol a’r dwfn foroedd.
Ar hyd y ffordd dragwyddol, Iôr, O arwain fi.
(Gweler hefyd Salm 66:3; 94:19; Jer. 17:10.)