Cân 87
A Ninnau Nawr yn Un
Fersiwn Printiedig
1. Cymar o’m cnawd, rhodd im wyt ti,
’ishshah ddymunol, hapus wyf fi.
Cefais gan Jah gwmni hawddgar,
Gwaith creu rhyfeddol fu.
Unwyd ni’n dau, mawr yw’n mwynhad,
Cwbl ddyledus ydym i’n Tad.
Dedwydd a fyddwn fel teulu,
Haedda ein Duw fawrhad.
Bob un dydd gwas’naethu Duw a gawn.
Ar ei Air gwrandawn,
Rhyngom bydd naws gariadlawn.
Ffyddlon a thriw fyddwn ni’n dau,
Cytgord hyfrydwch fydd yn dwysáu.
Boed i ni barchu Jehofa.
Ti fydd am byth yn gariad im.
(Gweler hefyd Gen. 29:18; Preg. 4:9, 10; 1 Cor. 13:8.)