Cân 130
Gwyrth Bywyd
(Salm 36:9)
1. Bywyd plentyn bach, cread gloyw-liw,
Haul a glaw a chnwd y maes, golwg a chlyw—
Rhoddion hyfryd ŷnt i’r ddynoliaeth fyrdd
Gan Dduw cariad sy’n amlygu inni ei ffyrdd.
(CYTGAN)
Pan ddaw i’n meddiant ni amhrisiadwy rodd,
Diolch wnawn i’n Tad amdani; ein calon gyffrôdd.
Mae caredigrwydd Duw tu hwnt i’n hamgyffred.
Rhodd lwyr anhaeddol yw—Rhyfeddod ydi byw.
2. Digalonna rai o blith dynolryw,
Fel gwraig Job dolefu wnânt: “Melltithia Dduw.”
Nid fel hyn wnawn ni; clod i Dduw a rown,
Ac â chalon dra diolchgar ato y down.
(CYTGAN)
Pan ddaw i’n meddiant ni amhrisiadwy rodd,
Caru wnawn ein câr a’n teulu; ein calon gyffrôdd.
Mae caredigrwydd Duw tu hwnt i’n hamgyffred.
Rhodd lwyr anhaeddol yw—Rhyfeddod ydi byw.
(Gweler hefyd Job 2:9; Salm 34:12; Preg. 8:15; Math. 22:37-40; Rhuf. 6:23.)