Cân 41
Addoli Jehofa yn Ystod Ieuenctid
Fersiwn Printiedig
(Pregethwr 12:1)
1. Cyfnod ieuenctid, mawr gyfle a rydd—
Amser i ’nabod eich Duw’n well nawr sydd.
Yn ei fawr gariad darparu ich wnaeth
Deulu, a gofal, cynhaliaeth a maeth.
2. Feibion a merched, i’ch ceraint, O rhowch
Deilwng anrhydedd; am help atynt trowch.
Glynwch wrth ddeddfau a dardd o’r Gair gwiw;
Canmol eich gyrfa a wna dyn a Duw.
3. Cofiwch eich Crëwr, gwir addysg ich roes,
Sanctaidd Ysgrythur gyfeiria eich moes;
Bydded i’w llewyrch oleuo eich cam.
Gweld wna Jehofa eich gyrfa ddi-nam.
(Gweler hefyd Salm 71:17; Galar. 3:27; Eff. 6:1-3.)