Cân 119
Dewch! Adferer Chi
1. O’n hamgylch mae byd ar gyfeiliorn, byd drwg
Na cheisia adnabod ffordd Duw.
Ond dilyn wnawn ni gyfarwyddyd di-ffael
Sy’n llesol i’n gyrfa a’n byw.
O gwrdd efo’n gilydd anogaeth a gawn
Sy’n gloywi ein gobaith a’n ffydd.
Awn ati, ymrown i weithredoedd sy’n dda;
Cawn nerth i ymdopi â’r dydd.
Anelwn at ryngu bodd grasol ein Duw,
Gochelwn rhag cilio yn ôl.
Ac wrth in ymgynnull ein trwytho a gawn
Ni’n denir ni mwy gan fyd ffôl.
2. Fe ŵyr ein Tad nefol anghenion pob un,
Am hynny i’w Air rhoddwn glust.
Fe brynwn yr amser ag eraill i gwrdd,
A dilyn ôl troed ‘ffyddlon Dyst.’
Yn ofn Duw, athrawon ein dysgu a wnânt;
Gweithredoedd fo’n addurn i’n ffydd.
Aelodau’r frawdoliaeth yw’n teulu a’n câr,
O’n cwmpas cariadus naws sydd.
A’r Dydd yn nesáu, boed in edrych ymlaen
At weld ein hanwyliaid i gyd.
Ac wrth gydaddoli ein hadfer a gawn,
Ym moes newydd-ddae’r. Gwyn ein byd.
(Gweler hefyd Salm 37:18; 140:1; Diar. 18:1; Eff. 5:16; Iago 3:17.)