Cân 54
Rhaid Wrth Ffydd
1. Llefarodd Duw gynt â dynion ar ddae’r
Drwy gyfrwng proffwydi oedd driw.
‘O edifarhewch!’ yw geiriau ei Fab.
Yr holl ddynoliaeth a glyw.
(CYTGAN)
Cwbl angenrheidiol yw’n ffydd;
Goruchafiaeth gaiff ar y byd.
Mewn gweithredoedd gwelir ei gwerth;
Meddiannu bywyd—arni rhown ein bryd.
2. Cyffeswn â’n genau, traethu a wnawn
Am Deyrnas o heddwch di-drai.
 rhyddid llefaru, taenwn ymhell
Wirionedd grymus diau.
(CYTGAN)
Cwbl angenrheidiol yw’n ffydd;
Goruchafiaeth gaiff ar y byd.
Mewn gweithredoedd gwelir ei gwerth;
Meddiannu bywyd—arni rhown ein bryd.
3. Ein ffydd yw ein hangor, sicr yw’n cam;
Nid cilio yn ôl a wnawn ni.
Gelynion a godant, ofer eu grym,
Cans Ceidwad mawr sydd o’n tu.
(CYTGAN)
Cwbl angenrheidiol yw’n ffydd;
Goruchafiaeth gaiff ar y byd.
Mewn gweithredoedd gwelir ei gwerth;
Meddiannu bywyd—arni rhown ein bryd.
(Gweler hefyd Rhuf. 10:10; Eff. 3:12; Heb. 11:6; 1 Ioan 5:4.)