CÂN 119
Rhaid Inni Gael Ffydd
1. Drwy lais ei broffwydi, siarad wnaeth Duw
 dyn yn yr oesoedd o’r blaen.
Ond heddiw mae’n siarad trwy Iesu Grist,
Gan ddweud, “Rhaid edifarhau.”
(CYTGAN)
A yw’r ffydd sydd gennym yn gryf?
A yw’r ffydd sydd gennym yn fyw?
Â’n gweithredoedd profwn ein ffydd.
Trwy ddangos ffydd bob dydd y byddwn byw.
2. Yn ufudd i Grist, ymunwn â’r gwaith,
A sôn am y Deyrnas wrth bawb.
Heb ofn, yn gyhoeddus, gobaith a rown,
A sail ein ffydd a gryfhawn.
(CYTGAN)
A yw’r ffydd sydd gennym yn gryf?
A yw’r ffydd sydd gennym yn fyw?
Â’n gweithredoedd profwn ein ffydd.
Trwy ddangos ffydd bob dydd y byddwn byw.
3. Fel angor sefydlog y mae ein ffydd,
Trwy stormydd gwnawn ddyfalbarhau.
Heb gilio yn ôl, yn gadarn parhawn.
Ein gwobr sy’n agosáu.
(CYTGAN)
A yw’r ffydd sydd gennym yn gryf?
A yw’r ffydd sydd gennym yn fyw?
Â’n gweithredoedd profwn ein ffydd.
Trwy ddangos ffydd bob dydd y byddwn byw.
(Gweler hefyd Rhuf. 10:10; Eff. 3:12; Heb. 11:6; 1 Ioan 5:4.)