Cân 40
Ceisiwch yn Gyntaf y Deyrnas
1. I Jehofa daeth hyfrydwch,
Teyrnas hedd i Grist a roes;
Ar Ei ran, ei Fab weinydda
Gyfiawn drefn a dwyfol foes.
(CYTGAN)
Ar y bla’n O rown y Deyrnas,
A chyfiawnder hawddgar Dduw.
Canu wnawn am fri Jehofa—
Daear gron ein mawl a glyw.
2. Na phryderwn am yfory
Er i brinder ddod i’n rhan;
Erom Duw a wnaeth ddarpariaeth.
Am y Deyrnas boed ein cân.
(CYTGAN)
Ar y bla’n O rown y Deyrnas,
A chyfiawnder hawddgar Dduw.
Canu wnawn am fri Jehofa—
Daear gron ein mawl a glyw.
3. Awn i draethu am Lywodraeth
Theocrataidd Iôr geir wir;
Troi wna’r teilwng at Jehofa.
Hedd a leinw fôr a thir.
(CYTGAN)
Ar y bla’n O rown y Deyrnas,
A chyfiawnder hawddgar Dduw.
Canu wnawn am fri Jehofa—
Daear gron ein mawl a glyw.
(Gweler hefyd Salm 27:14; Math. 6:34; 10:11, 13; 1 Pedr 1:21.)