Cân 108
Clodforwch Jehofa am Ei Deyrnas
1. Jehofa eneiniodd ei Fab
Yn Frenin ar ddynolryw;
Rhoes iddo orseddfainc cyfiawnder.
Gweithreder ar ddae’r ’wyllys Duw.
(CYTGAN)
I Jah rhowch y clod, a’i Eneiniog!
Cyfarchwch yr Iesu clodwiw.
Ymateb i’w lais wna torf defaid rai,
Canlynwyr sy’n ufudd, triw.
I Jah rhowch y clod! Ei Eneiniog
Yw’r mawr Lywodraethwr o fri;
Dyrchafu a wna lân enw ei Dduw,
Marchoga o blaid y gwir.
2. Duw, galw wna frodyr y Crist,
Eu geni o’r newydd gânt—
I’r Oen maent yn ddarpar briodferch;
Troi’r ddae’r yn Baradwys a wnânt.
(CYTGAN)
I Jah rhowch y clod, a’i Eneiniog!
Cyfarchwch yr Iesu clodwiw.
Ymateb i’w lais wna torf defaid rai,
Canlynwyr sy’n ufudd, triw.
I Jah rhowch y clod! Ei Eneiniog
Yw’r mawr Lywodraethwr o fri;
Dyrchafu a wna lân enw ei Dduw,
Marchoga o blaid y gwir.
(Gweler hefyd Diar. 29:4; Esei. 66:7, 8; Ioan 10:4; Dat. 5:9, 10.)