Cân 104
Canwn Fawl i Jah
Fersiwn Printiedig
(Salm 146:2)
1. Mawl rhown i Jah;
Canwn ei glod!
Rhoes inni fywyd, rhoi diolch fo’n nod.
Fore a hwyr
Bendithio wnawn
Enw clodforus ein Duw cariadlawn.
Nerthol weithredoedd ein Iôr a fawrhawn.
2. Mawl rhown i Jah.
Gwrando y mae
Ar ein gweddïau, ein pryder a’n gwae.
Cadarn ei fraich,
Nerth rydd i’r gwan;
O’i ysbryd sanctaidd yr addfwyn gaiff ran.
Molwn ei enw; ei nerth yw ein cân.
3. Mawl rhown i Jah.
Cyfiawn yw Duw;
Cawn ein cysuro, esmwytha ein briw.
Daear ddi-gledd
Buan a ddaw;
Bendith ei Deyrnas sydd heddiw gerllaw.
Seiniwn yn selog ei glod yn ddi-daw!
(Gweler hefyd Salm 94:18, 19; 145:21; 147:1; 150:2.)