Cân 127
Addolfan Sy’n Dwyn Dy Enw
1. Anrhydedd yw cael adeiladu
Addolfan i’th enw, O Dduw!
Derbynia ein rhodd, O Jehofa—
Dy foliant, cymdogion a glyw.
Y gore o’n doniau a’n llafur
A’n heiddo a roesom yn llon
I godi adeilad sy’n hawddgar;
Dymuniad a darddodd o’n bron.
(CYTGAN)
O Dduw derbynia nawr ein rhodd,
Dyrchafu dy enw wna.
Dy Air ein calon a gyffrôdd;
Llwydd ein gwaith, O sicrha.
2. I ti, Dduw Jehofa, y perthyn
Anrhydedd a mawredd a bri.
I’th enw fe genir molawdau
Gan ffyddlon rai’n fyd-eang sy’.
Mawr ofal a roddwn i’th drigle,
Hyfrydwch a ddyry it Jah.
Fe saif yn dystiolaeth, tŵr gwylio;
Lledaenu d’efengyl a wna.
(CYTGAN)
O Dduw derbynia nawr ein rhodd,
Dyrchafu dy enw wna.
Dy Air ein calon a gyffrôdd;
Llwydd ein gwaith, O sicrha.
(Gweler hefyd 1 Bren. 8:18, 27; 1 Cron. 29:11-14; Act. 20:24.)