CÂN 92
Addoldy i’th Enw
1. Mor fawr yw’r anrhydedd, Jehofa,
O roi rhywbeth gwerthfawr i ti.
Cysegrwn addoldy i’th enw,
Er clod i’th ogoniant a’th fri.
Mae popeth a roddwn o’n heiddo
Yn deillio o’th haelfrydig law.
Ein hegni, ein llafur, a’n doniau,
Defnyddiwn nhw oll er dy fawl.
(CYTGAN)
Dduw, derbyn nawr ’r adeilad hwn
Yn dŷ i dy enw di.
Jehofa, derbyn plîs ein rhodd:
Ein haddoldy rown i ti.
2. Jehofa, ti biau’r ysblander,
Y mawredd, y gallu, a’r bri.
Moliannwn dy nerth a’th ogoniant.
Mae popeth yn eiddo i ti.
Gwnawn lenwi’r adeilad â’th folawd,
Dy enw sancteiddiwn yn llon,
O’n gwirfodd, offrymwn ’r addoldy,
Braint hynod arbennig yw hon.
(CYTGAN)
Dduw, derbyn nawr ’r adeilad hwn
Yn dŷ i dy enw di.
Jehofa, derbyn plîs ein rhodd:
Ein haddoldy rown i ti.
(Gweler hefyd 1 Bren. 8:18, 27; 1 Cron. 29:11-14; Act. 20:24.)