Cân 90
Prydferthwch Hwyrddydd Oes
(Diarhebion 16:31)
1. Canmol wnawn ein hynaf rai,
Heibio aeth eu nerth.
Yn ein plith, hyfrytaf ŷnt,
Gwnaethant waith o werth.
Daeth i’w rhan dreialon— ond
Erys eu hapêl.
Cadw maent yn ysgafn fron,
Teyrngar, doed a ddêl.
(CYTGAN)
Cofia, O Jehofa,
Ffyddlon hynt eu ras.
D’wed yn dyner wrthynt,
“Campus wnest. Da was!”
2. Britho mae gwallt dynolryw,
Addurn yw i’r pen.
Ceir wrth rodio’n gyfiawn, triw,
Goron loyw wen.
Cyrraedd wnaethant hwyrddydd oes,
Awr dihoeni ddaw.
Ond mewn ffydd dal ati maent,
Uniawn a di-fraw.
(CYTGAN)
Cofia, O Jehofa,
Ffyddlon hynt eu ras.
D’wed yn dyner wrthynt,
“Campus wnest. Da was!”
(Gweler hefyd Salm 71:9, 18; Diar. 20:29; Math. 25:21, 23; Luc 22:28; 1 Tim. 5:1.)