Cân 113
Gwerthfawrogi Gair Duw
Fersiwn Printiedig
1. Jehofa’n Tad nefol, diolchwn i ti
Am rodd amhrisiadwy dy Air oddi fry!
Dy ysbryd a gyfeiriodd ysgrifen gweision triw—
Hyfrytaf ganllawiau a lywia ein byw.
2. Cofnodwyd y geiriau yn frwd ag apêl,
I’r amlwg daw ffydd dy broffwydi a’u sêl.
Myfyriwn ar eu gyrfa, a’r glew ymdrechion wnaed;
Yn weithgar boed ninnau, ymrown yn ddi-baid.
3. Dy Air sydd yn rymus, gwahana’n ddiau
Rhwng enaid ac ysbryd; dyfarnu y mae.
Cywiro wna feddyliau a bwriad calon dyn.
Doethineb Duw Iôr yna wrthym a lŷn.
(Gweler hefyd Salm 119:16, 162; 2 Tim. 3:16; Iago 5:17; 2 Pedr 1:21.)