LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 71
  • Beth Yw’r Enaid?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw’r Enaid?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Yr Enaid Yn Ôl y Beibl
    Beth Sy’n Digwydd Inni Pan ’Rydym yn Marw?
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 71
Merch, enaid byw, yn edrych ar glöyn byw, enaid byw arall

Beth Yw’r Enaid?

Ateb y Beibl

Mae’r gair “enaid” yn y Beibl yn gyfieithiad o’r gair Hebraeg neʹphesh a’r gair Groeg psu·cheʹ. Yn llythrennol, mae’r gair Hebraeg yn golygu “creadur sy’n anadlu,” a’r gair Groeg yn golygu “bod byw.”a Yr enaid, felly, yw’r creadur cyfan, nid rhywbeth mewnol sy’n goroesi pan fydd y corff yn marw. Ystyriwch sut mae’r Beibl yn dangos mai’r person cyfan yw’r enaid:

Adda, enaid byw, pan gafodd ei greu

Ni wnaeth Adda dderbyn enaid—fe ddaeth “yn enaid byw”

  • Pan greodd Jehofa Dduw y dyn cyntaf, Adda, mae’r Beibl yn dweud fe ddaeth y dyn “yn enaid byw.” (Genesis 2:7, Beibl Cysegr-lân) Ni wnaeth Adda dderbyn enaid​—fe ddaeth yn enaid byw, neu’n berson.

  • Mae’r Beibl yn dweud bod yr enaid yn gallu gweithio, eisiau bwyd, bwyta, ufuddhau i gyfreithiau, a chyffwrdd â chorff marw. (Lefiticus 5:2; 7:20; 23:30; Deuteronomium 12:20; Rhufeiniaid 13:1) Mae’r gweithredoedd hynny yn cynnwys y person cyfan.

Ydy’r enaid yn anfarwol?

Nac ydy, mae’r enaid yn gallu marw. Mae dwsinau o adnodau o’r Beibl yn sôn am yr enaid yn marw. Dyma rai enghreifftiau:

  • “Yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.”—Eseciel 18:4, 20, Beibl Cysegr-lân.

  • Yn Israel hynafol, mae’r Beibl yn dweud am bwy bynnag oedd yn troseddu’n ddifrifol, “yr enaid hwnnw a dorrir ymaith.” (Exodus 12:15, 19; Lefiticus 7:20, 21, 27; 19:8, Beibl Cysegr-lân) “Rhoddir i farwolaeth” y person hwnnw.​—Exodus 31:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

  • Yn yr adnodau isod, mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl yn defnyddio’r termau “corff marw,” neu “person marw.” Ond, yn yr Hebraeg gwreiddiol, mae’n dweud neʹphesh, neu “enaid.”—Lefiticus 21:11; Numeri 6:6.

Gall “enaid” olygu “bywyd”

Yn y Beibl, weithiau mae’r gair “enaid” yn gyfystyr â “bywyd.” Er enghraifft, yn Job 33:22, Beibl Cysegr-lân, mae’r Beibl yn defnyddio’r gair Hebraeg “enaid” (neʹphesh) i olygu “bywyd.” Yn debyg, mae’r Beibl yn dangos gall enaid, neu fywyd person, gael ei beryglu neu ei golli.—Exodus 4:19; Barnwyr 9:17, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Philipiaid 2:30.

Mae’r defnydd hwn o’r gair “enaid” yn ein helpu ni i ddeall adnodau sy’n sôn am yr enaid yn “ymadael.” (Genesis 35:18; Beibl Cysegr-lân) Mae’r ymadrodd hwn yn awgrymu bod bywyd y person yn dod i ben. Mae rhai cyfieithiadau yn trosi’r ymadrodd yn Genesis 35:18 fel “wrth iddi dynnu ei hanadl olaf.”

Tarddiad y ddysgeidiaeth am enaid anfarwol

Mae enwadau Cristnogol sy’n credu mewn enaid anfarwol yn cael y ddysgeidiaeth, nid o’r Beibl, ond o athroniaeth hynafol o wlad Groeg. Mae Geirfa beibl.net yn dweud: “Ystyr y gair enaid ydy ‘un sy’n fyw,’ felly mae cyfeirio gan amlaf at ‘y person cyfan.’ Nid rhannau gwahanol o berson ydy corff, enaid, meddwl ac ysbryd. Syniad Groegaidd sy’n ystyried yr enaid fel rhyw endid ‘bur’ sydd wedi ei gaethiwo yn y corff.”

Dydy Duw ddim yn caniatáu i’w ddysgeidiaethau gael eu cymysgu ag athroniaethau dynol, fel y ddysgeidiaeth o’r enaid anfarwol. Yn hytrach, mae’r Beibl yn rhybuddio: “Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol.”—Colosiaid 2:8.

a Gweler The New Brown, Driver, and Briggs Hebrew and English Lexicon of the Old Testament, tudalen 659, a’r Lexicon in Veteris Testamenti Libros, tudalen 627. Mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl yn trosi’r geiriau neʹphesh a psu·cheʹ yn wahanol yn ôl y cyd-destun, gan ddefnyddio geiriau fel “enaid,” “bywyd,” “person,” “creadur,” neu “corff.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu