Cân 112
Mawr Dduw, Jehofa
Fersiwn Printiedig
1. Mawr Dduw, Jehofa, Craig wyt a noddfa.
Rhyngu’th fodd yw’n pennaf nod;
Haedda d’enw fawl a chlod.
Sicr dy orsedd, saif ar wirionedd.
Molwn di, yr Uchaf Fod.
2. Mawr yw dy gariad, clywi’n deisyfiad.
Parod wyt i faddau bai,
’R un edifar gaiff nesáu.
Cyfiawn a ffyddlon, hael wyt â’th roddion;
Derbyn fawl dy deyrngar rai.
3. Boed i’r angylion, dae’r a’i brodorion
Uno mewn soniarus gôr;
Aed dy glod dros dir a môr.
Hawddgar dy Deyrnas— dae’r ddaw yn irlas.
Gwneler dy ewyllys, Iôr.
(Gweler hefyd Deut. 32:4; Diar. 16:12; Math. 6:10; Dat. 4:11.)