Cân 72
Meithrin Rhinwedd Cariad
Fersiwn Printiedig
1. Gan Dduw, mawr Roddwr, y nerth a gawn
I efelychu ei ddoniau’n llawn.
Pwysicaf rinwedd yw’r cariad gwiw,
Amlycaf nodwedd ein Pennaf Lyw.
Fe gyll ein ffydd ei daionus rym
Os yn rhodd cariad diffygiol ŷm.
O boed in feithrin y cariad pur—
Annatod ran yw o’r natur gwir.
2. Â chariad dysgwn y defaid rai,
Eu hannog beunydd a’u ffydd cryfhau.
Diffuant byddwn; ymrown yn daer,
Gweithredoedd da gadarnhânt y Gair.
Amynedd, addurn i’n cariad fydd,
Gwna’n haws in gario baich trwm y dydd.
Os digwydd anffawd i’n dwys dristáu,
‘Y ffordd ragorach,’ dal ati mae.
(Gweler hefyd Ioan 21:17; 1 Cor. 13:13; Gal. 6:2.)