Cân 122
Myrdd Myrddiynau o Frodyr
Fersiwn Printiedig
1. Myrdd o fyrddiynau o frodyr,
Cyson genhadu wnânt,
Eang eu maes llefaru;
Enw eu Duw fawrhânt.
Myrdd o fyrddiynau ydym,
Tyrfa heddychol, driw,
Daethom ynghyd o bob llwyth ac iaith;
Molwn Jehofa Dduw.
2. Myrdd o fyrddiynau o frodyr,
I bellter byd yr awn;
Cyflym ein traed a gweddaidd,
Rhannu’r efengyl wnawn.
Os daw cyfnodau anodd—
Lludded ar faes y gad,
Cyfle i adfer ein nerth a gawn;
Iesu a rydd lesâd.
3. Mawr ofal Duw Jah sydd drosom
Ni, ei fyrddiynau fyrdd,
Deuwn i’w byrth â moliant,
Dysgwn ei Air a’i ffyrdd.
Ninnau’n niferus dyrfa,
Traethwn am Deyrnas wiw:
‘Nefol lywodraeth, brenhinol urdd,
Gwarchod wna ddynolryw.’
(Gweler hefyd Esei. 52:7; Math. 11:29; Dat. 7:15.)