Cân 76
Jehofa, Duw Tangnefedd
1. Yr hedd hir ei barhad
Dyro inni, dirion Dad.
Boed i foliant ein gwefusau
Lenwi’r ddaear â’th fawrhad.
Goruwch pob deall yw
Tangnefeddus ffyrdd ein Duw.
Aberth Iesu brynodd inni
Fyd o hedd heb loes na briw.
2. Ni fedrwch ddod o hyd
I’r fath heddwch yn y byd;
Ond i’w bobl rhydd Jehofa
Ysbryd hedd pan ddônt ynghyd.
D’ewyllys, Dduw, a wnawn;
Ein hadduned cwblhawn.
Dod o’r galon mae’n hymdrechion.
Gennyt gwir dangnefedd gawn.
3. Goleuo’n deall wna
D’ysbryd tangnefeddus, Jah;
Mewn byd tywyll, digyfeiriad,
Cywir gam a sicrha.
Boed i’th dangnefedd, Dduw,
Adnewyddu’n moes a’n byw.
Iôr cyfiawnder, gwna’n ddibryder
Galon pawb sydd iti’n driw.
(Gweler hefyd Salm 4:8; Phil. 4:6, 7; 1 Thes. 5:23.)