CÂN 112
Jehofa, Duw Heddwch
Fersiwn Printiedig
1. Tydi, Jehofa Dduw,
Sy’n rhoi heddwch dwfn i ni,
Felly, arnat ’dyn ni’n erfyn
Er mwyn derbyn d’ysbryd di.
Oherwydd aberth Crist,
‘Yr Un ffyddlon’ a’r ‘Un gwir,’
Cawn fwynhau dy gyfeillgarwch—
Profi gawn dy heddwch pur.
2. Pelydrau d’ysbryd sydd
Yn goleuo llwybr ffydd;
Cawn ein harwain ac ein gwarchod
Er mor dywyll yw ein byd.
Dduw, rho dy ysbryd di,
A dy fendith arnom ni.
Er y terfysg a’r rhyfela,
Heddwch perffaith drosom sy’.
3. Dy ysbryd grymus sy’n
Hybu hedd d’anwyliaid di;
Yn y nef ac ar y ddaear
Yn unedig ydym ni.
Dy Deyrnas di a rydd
Fyd heb ryfel cyn bo hir.
Caiff yr addfwyn fyd o heddwch,
A hyd byth, dangnefedd pur.
(Gweler hefyd Salm 4:8; Phil. 4:6, 7; 1 Thes. 5:23.)