Cân 95
“Profwch, a Gwelwch Mai Da Yw Jehofa”
Fersiwn Printiedig
(Salm 34:8)
1. Rhoi heibio a wnawn yr oriau
I gyson bregethu y Gair.
Ein gore a rown, cenhadu a wnawn;
Rhaid cyrraedd hyd eithaf y ddae’r.
(CYTGAN)
‘Profwch, a gwelwch mor dda yw Duw.’
Ef gwasanaethwn â’n nerth;
Byw bywyd duwiol mawr elw yw—
Golud ysbrydol o werth.
2. Bodlonrwydd y gwaith llawn amser
A dardd o ymddiried di-ffael
Yng ngallu ein Duw. Mawr fendith a gawn,
A medi trysorau di-draul.
(CYTGAN)
‘Profwch, a gwelwch mor dda yw Duw.’
Ef gwasanaethwn â’n nerth;
Byw bywyd duwiol mawr elw yw—
Golud ysbrydol o werth.
(Gweler hefyd Marc 14:8; Luc 21:2; 1 Tim. 1:12; 6:6.)