Cân 140
Bywyd yr Arloeswr
(Pregethwr 11:6)
Yn y bore bach gwyn cyn daw toriad y wawr,
Er mai trwm yw ein llygaid
a chynnar yw’r awr,
allan awn.
Ar ôl gweddi, awn i gyfarch pawb ar y stryd—
Rhai yn oedi ond eraill
yn troedio’n ddi-hid—ond parhawn.
(CYTGAN)
Dyma’r bywyd i mi!
Caf fendithion di-rif,
A chaf ddangos fy nghariad at Dduw.
Yn yr heulwen a’r glaw,
Drwy beth bynnag a ddaw,
Gallaf ddangos mai i ti fy Nuw
Rwyf yn byw.
Ar ôl machlud yr haul, pan orweddwn i lawr,
Er mai trwm yw ein llygaid
a hwyr ydyw’r awr,
llawenhawn.
Teimlad gorau’n y byd yw cael gorffen bob dydd
Drwy roi diolch i Dduw
am y cyfle i fyw bywyd llawn.
(CYTGAN)
Dyma’r bywyd i mi!
Caf fendithion di-rif,
A chaf ddangos fy nghariad at Dduw.
Yn yr heulwen a’r glaw,
Drwy beth bynnag a ddaw,
Gallaf ddangos mai i ti fy Nuw
Rwyf yn byw.
(Gweler hefyd Jos. 24:15; Salm 92:2; Rhuf. 14:8.)