LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 19 t. 22
  • Iesu yn Proffwydo am Ddyfodol y Byd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Iesu yn Proffwydo am Ddyfodol y Byd
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Iesu’n Fyw!
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 19 t. 22
Iesu yn siarad â rhai o’i apostolion ar Fynydd yr Olewydd

RHAN 19

Iesu yn Proffwydo am Ddyfodol y Byd

Iesu’n rhestru’r digwyddiadau a fydd yn arwydd o’i bresenoldeb fel Brenin, ac o derfyniad y drefn hon

ROEDD Iesu ar Fynydd yr Olewydd yn edrych ar olygfa odidog o Jerwsalem a’r deml pan ddaeth pedwar o’i apostolion ato i’w holi am rai o’i sylwadau gynt. Roedd Iesu newydd ddweud y byddai’r deml yn Jerwsalem yn cael ei dinistrio. Yn gynharach, roedd Iesu wedi sôn wrthyn nhw am derfyniad y drefn. (Mathew 13:40, 49) Yn awr, roedd yr apostolion yn gofyn beth fyddai’r arwydd fod Iesu yn bresennol a bod y drefn yn dirwyn i ben.—Mathew 24:3.

Wrth ateb, disgrifiodd Iesu beth fyddai’n digwydd yn y cyfnod cyn i Jerwsalem gael ei dinistrio. Ond roedd arwyddocâd ehangach i’w eiriau. Fe fyddai cyflawniad pellach i’w broffwydoliaeth, a hynny drwy’r byd i gyd. Proffwydodd Iesu am gyflwr cyffredinol y byd ac am ddigwyddiadau penodol a fyddai, gyda’i gilydd, yn gweithredu fel arwydd. Byddai’r arwydd hwnnw yn dangos i bobl ar y ddaear fod presenoldeb Iesu fel Brenin yn y nef wedi dechrau. Mewn geiriau eraill, fe fyddai’r arwydd yn dangos bod Jehofa Dduw wedi coroni Iesu’n Frenin ar y Deyrnas Feseianaidd. Byddai hefyd yn golygu bod y Deyrnas ar fin cael gwared ar ddrygioni a dod â heddwch i ddynolryw. Fe fyddai’r pethau a ragfynegodd Iesu yn nodi dyddiau olaf yr hen drefn—y drefn grefyddol, wleidyddol, a chymdeithasol—a dechrau un newydd.

Dywedodd Iesu y byddai rhyfeloedd, newyn, daeargrynfeydd, ac afiechydon yn digwydd yn ystod ei bresenoldeb fel Brenin yn y nef. Byddai torcyfraith yn mynd o ddrwg i waeth. Byddai gwir ddisgyblion Iesu’n pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw drwy’r byd i gyd. Byddai’r pethau hyn yn arwain at ‘orthrymder mawr’ na fu erioed ei debyg.—Mathew 24:21.

Sut byddai dilynwyr Iesu yn gwybod bod y gorthrymder hwnnw yn agos? Dywedodd Iesu: “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren.” (Mathew 24:32) Roedd gweld dail ar y ffigysbren yn arwydd clir fod yr haf yn agosáu. Yn yr un modd, byddai gweld y pethau a ragfynegodd Iesu i gyd yn digwydd mewn un cyfnod yn arwydd fod y diwedd yn agos. Dim ond y Tad sy’n gwybod y dydd a’r awr y bydd y gorthrymder mawr yn dechrau. Felly, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.”—Marc 13:33.

​—Yn seiliedig ar Mathew penodau 24 a 25; Marc pennod 13; Luc pennod 21.

  • Am beth roedd apostolion Iesu eisiau gwybod mwy?

  • Beth yw ystyr yr arwydd a roddodd Iesu, a beth fyddai nodweddion yr arwydd hwnnw?

  • Pa gyngor a roddodd Iesu i’w ddisgyblion?

ARWYDD O BRESENOLDEB CRIST

Rhagfynegodd Iesu y byddai arwydd yn dangos bod yr amser i Dduw ddinistrio’r drefn lygredig hon yn agos. O’r Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen, mae’r ddynoliaeth wedi gweld cyflawniad o’r hyn a broffwydodd Iesu. Trwy’r byd i gyd, mae newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol yn arwain yn anochel at ddiwedd y drefn hon. Er mwyn i’w ddilynwyr oroesi, dywedodd Iesu fod rhaid iddyn nhw aros yn “effro” a chymryd camau pendant i gefnogi sofraniaeth Duw.a—Luc 21:36; Mathew 24:3-14.

a Am drafodaeth bellach ar broffwydoliaethau Iesu, gweler pennod 9 y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu