LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 21 t. 24
  • Mae Iesu’n Fyw!

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mae Iesu’n Fyw!
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Yr Apostolion yn Pregethu’n Ddewr
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Iesu yn Proffwydo am Ddyfodol y Byd
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Iesu Grist yn Cael ei Ladd
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Y Meseia’n Cyrraedd
    Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
Gweld Mwy
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 21 t. 24
Iesu yn dychwelyd i’r nef

RHAN 21

Mae Iesu’n Fyw!

Iesu’n ymddangos i’w ddisgyblion i’w calonogi ac i roi comisiwn iddyn nhw

AR Y TRYDYDD dydd ar ôl i Iesu farw, aeth rhai o’r merched o blith ei ddisgyblion at y bedd a gweld bod y garreg ar draws ceg y bedd wedi cael ei symud. Ar ben hynny, roedd y bedd yn wag!

Ymddangosodd dau angel. “Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth,” meddai un. “Y mae wedi ei gyfodi.” (Marc 16:6) Ar unwaith, fe redodd y merched i ddweud wrth yr apostolion. Ar y ffordd, dyma nhw’n cwrdd â Iesu. “Peidiwch ag ofni,” meddai. “Ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am fynd i Galilea, ac yno fe’m gwelant i.”—Mathew 28:10.

Yn ddiweddarach, roedd dau ddisgybl yn cerdded o Jerwsalem i bentref Emaus. Ar y ffordd dyma ddyn dieithr yn ymuno â nhw a gofyn beth roedden nhw’n ei drafod. Iesu oedd y dyn hwnnw, ond oherwydd iddo ymddangos ar ffurf wahanol o ran pryd a gwedd, doedd y disgyblion ddim yn ei adnabod yn syth. Dywedon nhw’n ddigalon eu bod nhw’n siarad am Iesu. Dechreuodd y dyn esbonio’r Ysgrythurau sy’n ymwneud â’r Meseia. Yn wir, roedd Iesu wedi cyflawni pob gair o’r proffwydoliaethau am y Meseia.a Pan sylweddolodd y disgyblion mai Iesu oedd y dyn, wedi ei atgyfodi fel ysbryd, fe ddiflannodd.

Brysiodd y ddau ddisgybl yn ôl i Jerwsalem. Yno, fe gawson nhw hyd i’r apostolion mewn ystafell a’r drws ar glo. Tra oedd y ddau yn adrodd yr hanes, dyma Iesu’n ymddangos. Prin y gallai ei ddilynwyr gredu’r fath beth! “Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau?” gofynnodd Iesu. “Fel hyn y mae’n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd.”—Luc 24:38, 46.

Am 40 diwrnod ar ôl ei atgyfodiad, fe ymddangosodd Iesu i’w ddisgyblion ar wahanol adegau. Un tro, ymddangosodd i fwy na 500 o bobl! Mae’n debyg mai dyna pryd y rhoddodd iddyn nhw’r comisiwn pwysig hwn: “Ewch . . . a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, . . . a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”—Mathew 28:19, 20.

Wrth iddo gyfarfod â’r 11 apostol ffyddlon am y tro olaf, fe addawodd Iesu: “Fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi . . . hyd eithaf y ddaear.” (Actau 1:8) Yna, cafodd Iesu ei godi o olwg y disgyblion mewn cwmwl ac esgynnodd i’r nef.

​—Yn seiliedig ar Mathew penodau 28; Marc pennod 16; Luc pennod 24; Ioan penodau 20 a 21; 1 Corinthiaid 15:5, 6.

a Am enghreifftiau o broffwydoliaethau Meseianaidd a gyflawnwyd yn Iesu, gweler Rhan 14, Rhan 15, a Rhan 16 yn y llyfryn hwn a hefyd yr erthygl “Iesu Grist​—Y Meseia Addawedig y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

  • Sut cafodd y disgyblion wybod bod Duw wedi atgyfodi Iesu?

  • Beth wnaeth Iesu ei esbonio i’r ddau ddisgybl ar y ffordd i Emaus?

  • Pa gomisiwn roddodd Iesu i’w ddisgyblion cyn mynd yn ôl i’r nef?

YR YSBRYD GLÂN

Ysbryd glân Duw yw’r grym mwyaf pwerus yn y bydysawd. Defnyddiodd Jehofa Dduw ei ysbryd, neu ei rym gweithredol, i greu’r nefoedd a’r ddaear, a hefyd i ysbrydoli pobl i ysgrifennu’r Beibl. Yr ysbryd hwn oedd y grym y tu ôl i’r holl wyrthiau rydyn ni wedi darllen amdanyn nhw hyd yma, gan gynnwys y wyrth fwyaf erioed—atgyfodiad Iesu Grist i fywyd fel ysbryd nerthol.—Genesis 1:2; 2 Samuel 23:2; Actau 10:38; 1 Pedr 3:18.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu