RHAN 24
Paul yn Ysgrifennu at y Cynulleidfaoedd
Llythyrau Paul yn cryfhau’r gynulleidfa Gristnogol
BYDDAI’R gynulleidfa Gristnogol newydd yn chwarae rôl bwysig ym mhwrpas Jehofa. Ond yn fuan iawn, daeth Cristnogion y ganrif gyntaf dan bwysau mawr. A fydden nhw’n aros yn ffyddlon i Dduw yn wyneb erledigaeth o’r tu allan a pheryglon llai amlwg o’r tu mewn? Yn yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, ceir 21 o lythyrau sy’n cynghori ac yn calonogi’r disgyblion.
Ysgrifennwyd 14 o’r llythyrau, sef Rhufeiniaid hyd at Hebreaid, gan yr apostol Paul. Mae’r llythyrau hyn yn cael eu hadnabod wrth enwau’r unigolion neu’r cynulleidfaoedd yr oedd Paul yn ysgrifennu atyn nhw. Ystyriwch rai o’r pynciau sy’n cael eu trafod gan Paul yn ei lythyrau.
Cyngor ar fywyd Cristnogol. Ni fydd pobl sy’n parhau i buteinio, i odinebu, ac i bechu’n ddifrifol yn “etifeddu teyrnas Dduw.” (Galatiaid 5:19-21; 1 Corinthiaid 6:9-11) Rhaid i addolwyr Duw o bob cenedl fod yn unedig. (Rhufeiniaid 2:11; Effesiaid 4:1-6) Dylen nhw fod yn hapus i helpu cyd-gredinwyr mewn angen. (2 Corinthiaid 9:7) “Gweddïwch yn ddi-baid,” meddai Paul. Yn wir, mae’n annog addolwyr i dywallt allan eu calonnau wrth weddïo. (1 Thesaloniaid 5:17; 2 Thesaloniaid 3:1; Philipiaid 4:6, 7) Er mwyn i Dduw wrando, mae’n rhaid gweddïo mewn ffydd.—Hebreaid 11:6.
Beth fydd yn helpu teuluoedd i ffynnu? Dylai’r gŵr garu ei wraig fel ei gorff ei hun. Dylai’r wraig barchu ei gŵr. Dylai plant ufuddhau i’w rhieni oherwydd bod hyn yn plesio Duw. Mae angen i rieni roi eu plant ar ben ffordd mewn modd cariadus, gan ddilyn egwyddorion y Beibl.—Effesiaid 5:22–6:4; Colosiaid 3:18-21.
Help i ddeall pwrpas Duw. Roedd Cyfraith Moses yn diogelu ac yn arwain yr Israeliaid hyd nes i Grist ddod. (Galatiaid 3:24) Sut bynnag, does dim angen i Gristnogion gadw’r Gyfraith er mwyn addoli Duw. Roedd yr Hebreaid yn Gristnogion o gefndir Iddewig, ac fe ysgrifennodd Paul atyn nhw i esbonio ystyr y Gyfraith a’r ffordd y cafodd pwrpas Duw ei gyflawni yng Nghrist. Eglurodd Paul fod arwyddocâd proffwydol i’r hyn a ddigwyddodd o dan y Gyfraith. Er enghraifft, roedd aberthu anifeiliaid yn symboleiddio marwolaeth Crist, yr aberth a fyddai’n caniatáu i bobl gael maddeuant am eu pechodau. (Hebreaid 10:1-4) Trwy farwolaeth Iesu, diddymodd Duw gyfamod y Gyfraith, gan nad oedd ei angen bellach.—Colosiaid 2:13-17; Hebreaid 8:13.
Cyfarwyddyd ar gyfer trefnu’r gynulleidfa. Rhaid i ddynion sydd â chyfrifoldeb yn y gynulleidfa gadw at safonau moesol uchel a chwrdd â gofynion ysbrydol. (1 Timotheus 3:1-10, 12, 13; Titus 1:5-9) Dylai addolwyr Jehofa Dduw gyfarfod yn rheolaidd i annog ei gilydd. (Hebreaid 10:24, 25) Dylai’r cyfarfodydd hyn fod yn adeiladol ac yn addysgiadol.—1 Corinthiaid 14:26, 31.
Erbyn iddo ysgrifennu ei ail lythyr at Timotheus, roedd Paul yn ôl yn Rhufain ac yn y carchar yn disgwyl cael ei ddedfrydu. Dim ond ychydig o bobl oedd yn ddigon dewr i ymweld ag ef. Roedd Paul yn gwybod bod ei amser yn fyr. Fe ddywedodd: “Yr wyf wedi ymdrechu’r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i’r pen, yr wyf wedi cadw’r ffydd.” (2 Timotheus 4:7) Mae’n debyg i Paul gael ei ferthyru yn fuan wedyn. Ond, mae ei lythyrau yn parhau i roi arweiniad i addolwyr Duw heddiw.
—Yn seiliedig ar Rufeiniaid; 1 Corinthiaid; 2 Corinthiaid; Galatiaid; Ephesiaid; Philipiaid; Colosiaid; 1 Thesaloniaid; 2 Thesaloniaid; 1 Timotheus; 2 Timotheus; Titus; Philemon; Hebreaid.