RHAN 9
Pryd Bydd Paradwys yn Dod?
Mae trafferthion yn y byd yn profi y bydd Teyrnas Dduw yn gweithredu’n fuan. Luc 21:10, 11; 2 Timotheus 3:1-5
Rhagfynegodd y Beibl lawer o’r pethau sy’n digwydd heddiw. Dywedodd y byddai pobl yn caru arian, yn anufudd i’w rhieni, yn ffyrnig, ac yn caru pleserau.
Byddai daeargrynfeydd dirfawr, rhyfeloedd, newyn, ac afiechydon i’w gweld yn y byd. Mae’r pethau hyn yn digwydd nawr.
Hefyd, dywedodd Iesu byddai’r newydd da am y Deyrnas yn cael ei bregethu drwy’r byd i gyd.—Mathew 24:14.
Bydd y Deyrnas yn cael gwared ar ddrygioni. 2 Pedr 3:13
Yn fuan, bydd Jehofah yn dinistrio pobl ddrwg.
Bydd Satan a’r cythreuliaid yn cael eu cosbi.
Bydd y rhai sy’n gwrando ar Dduw yn goroesi ac yn byw mewn byd newydd cyfiawn heb ofn. Bydd y byd yn llawn pobl gariadus sy’n ymddiried yn ei gilydd.