GWERS 6
Mae Paradwys yn Agos!
Yn ôl y Beibl mi fydd y cyfnod cyn i’r Baradwys ddod yn amser gofidus iawn i bawb. Mae’n sôn am ddigwyddiadau tebyg iawn i’r hyn sy’n y byd heddiw:
Rhyfeloedd mawr. “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.” (Mathew 24:7) Ers 1914 mae miliynau o bobl wedi marw mewn dau ryfel byd a rhyfeloedd eraill llai. Daeth y broffwydoliaeth yn wir.
Afiechydon ar led. Mae cancr, clefyd y galon, tuberculosis, malaria, AIDS, a chlefydau eraill yn “blâu” sy’n lladd miliynau o bobl heddiw. (Luc 21:11)
Prinder bwyd. Arwydd arall y daw Paradwys yn fuan ydi’r prinder bwyd sy’ mewn cymaint o wledydd heddiw, yn dod â marwolaeth cynnar i filiynau o bobl. Mor wir ydi geiriau Marc 13:8, y bydd ‘na “adegau o newyn.”
Daeargrynfâu. Ers 1914 mae daeargrynfâu wedi lladd miliynau o bobl. Mae geiriau Mathew 24:7 y bydd ‘na “ddaeargrynfâu mewn mannau,” wedi dod yn wir yn ein hoes ni.
Pobl ddrwg. Sut ‘rydych chi’n gweld y byd heddiw? Yn “ariangar,” yn “hunangar,” yn “caru pleser yn fwy na charu Duw,” a phlant “heb barch i’w rhieni”? Fyddech chi’n cytuno mai dyma sut mae pobl heddiw? (2 Timotheus 3:1-5) Wedi anghofio Duw yn llwyr, maen’ nhw hyd yn oed am wneud pethau’n anodd i’r rhai sydd eisiau ‘nabod Duw yn well.
Torcyfraith. Fyddech chi’n cytuno fod “drygioni’n amlhau” heddiw gyda’r holl ymosod ar bobl, a dwyn a thwyllo ar gynnydd? (Mathew 24:12)
Mae’r holl bethau hyn yn dangos fod Teyrnas Dduw yn agos. Fel mae’r Beibl yn dweud: “Pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos.” (Luc 21:31) Beth ydi Teyrnas Dduw? Llywodraeth nefol Duw fydd yn sefydlu Paradwys ar y ddaear. Bydd Teyrnas Dduw yn disodli pob ffurf ar reolaeth dyn.—Daniel 2:44.