Cân 148
Rhoist Dy Ffyddlon Fab
Jehofa, Dad annwyl,
Heb obaith oedd y byd.
Rhoist obaith, rhoist bridwerth;
Do, fe’n ceraist ni!
I Ti yr hoffwn fyw.
Siaradwn am ein ffydd
Hyd at bellteroedd byd.
Ein gorau rown i Ti.
(CYTGAN)
Fe roist dy ffyddlon Fab.
Fel côr cawn ganu cân
O foliant a llawenydd
I ddiolch am dy ffyddlon Fab.
Dy ffeindrwydd tosturiol
Sydd yn ein denu ni.
Dy gwmni a’th enw,
Caru wnawn hyd byth.
Dy gariad, perffaith yw;
Rhoist o’th haelfrydig law
Dy Fab, er mwyn i bawb
Sy’n ufudd fyw am byth.
(CYTGAN)
Fe roist dy ffyddlon Fab.
Fel côr cawn ganu cân
O foliant a llawenydd
I ddiolch am dy ffyddlon Fab.
(DIWEDDGLO)
Jehofa, Dad annwyl, o’th gariad rhoist dy Fab,
Dy unig-anedig. Diolch am dy ffyddlon Fab.
(Gweler hefyd Ioan 3:16; 1 Ioan 4:9.)