LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bhs pen. 5 tt. 52-61
  • Y Pridwerth—Rhodd Fwyaf Duw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Pridwerth—Rhodd Fwyaf Duw
  • Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Darllen yn Beibl Ddysgu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH YW’R PRIDWERTH?
  • SUT TREFNODD JEHOFA Y PRIDWERTH?
  • SUT GALLWCH CHI ELWA AR Y PRIDWERTH?
  • A FYDDWCH YN DERBYN Y PRIDWERTH?
  • Parha i Werthfawrogi’r Pridwerth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Beth Yw’r Anrheg Orau Oll?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2017
  • Sut Mae Aberth Iesu “yn Bridwerth Dros Lawer”?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Sut Gall Marwolaeth Iesu Ein Hachub Ni?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
bhs pen. 5 tt. 52-61

PENNOD PUMP

Y Pridwerth—Rhodd Fwyaf Duw

1, 2. (a) Beth sy’n gwneud anrheg yn un arbennig? (b) Pam mai’r pridwerth yw’r rhodd fwyaf oddi wrth Dduw?

BETH yw’r anrheg orau rydych chi erioed wedi ei chael? Does dim rhaid i anrheg fod yn ddrud i fod yn arbennig. Pan fydd anrheg yn eich gwneud chi’n hapus neu’n cyflenwi gwir angen, rydych chi’n ddiolchgar iawn amdani.

2 O’r holl anrhegion mae Duw wedi’u rhoi inni, y mae un sydd ei hangen yn fwy na phob un arall. Dyma’r rhodd fwyaf i Dduw ei rhoi i’r ddynoliaeth. Yn y bennod hon, byddwn ni’n dysgu bod Jehofa wedi anfon ei Fab Iesu Grist i’r ddaear er mwyn inni gael byw am byth. (Darllenwch Mathew 20:28.) Drwy anfon Iesu i dalu’r pridwerth, mae Jehofa wedi profi ei fod yn ein caru ni’n fawr.

BETH YW’R PRIDWERTH?

3. Pam mae pobl yn marw?

3 Y pridwerth yw’r ffordd mae Jehofa wedi ei threfnu i ryddhau pobl o afael pechod a marwolaeth. (Effesiaid 1:7) Er mwyn deall pam bod angen y pridwerth, mae’n rhaid inni wybod am rywbeth a ddigwyddodd filoedd o flynyddoedd yn ôl yng ngardd Eden. Pechodd ein rhieni cyntaf, Adda ac Efa, ac oherwydd hynny, buon nhw farw. Rydyn ni’n marw hefyd oherwydd inni etifeddu pechod oddi wrth Adda ac Efa.—Gweler Ôl-nodyn 9.

4. Pwy oedd Adda, a beth oedd ganddo?

4 Pan greodd Jehofa y dyn cyntaf Adda, fe roddodd iddo rywbeth gwerthfawr iawn. Rhoddodd fywyd perffaith i Adda. Roedd gan Adda gorff perffaith a meddwl perffaith. Ni fyddai byth yn mynd yn wael, yn heneiddio, nac yn marw. Oherwydd ei fod wedi creu Adda, roedd Jehofa fel Tad iddo. (Luc 3:38) Roedd Jehofa yn siarad ag ef yn rheolaidd, gan esbonio beth roedd yn disgwyl iddo ei wneud, ac yn rhoi gwaith pleserus iddo.—Genesis 1:28-30; 2:16, 17.

5. Beth mae’r Beibl yn ei feddwl pan ddywed fod Adda wedi ei greu ar ddelw Duw?

5 Cafodd Adda ei greu ar ddelw Duw. (Genesis 1:27) Rhoddodd Jehofa ei briodoleddau ei hun i Adda, gan gynnwys cariad, doethineb, cyfiawnder, a grym. Rhoddodd ewyllys rhydd iddo. Felly, nid robot oedd Adda. Cafodd ei greu fel y gallai ddewis gwneud da neu ddrwg. Petai Adda wedi dewis bod yn ufudd i Dduw, gallai fod wedi byw am byth ym Mharadwys.

6. Beth gollodd Adda pan ddewisodd anufuddhau i Dduw? Sut mae hynny yn effeithio arnon ni?

6 Pan ddewisodd Adda fod yn anufudd i Dduw, cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Roedd yn golled aruthrol, oherwydd fe gollodd ei berthynas arbennig â Jehofa, ynghyd â’i fywyd perffaith, a’i gartref ym Mharadwys. (Genesis 3:17-19) Roedd Adda ac Efa wedi dewis anufuddhau i Dduw, felly doedd dim gobaith iddyn nhw. Oherwydd dewis Adda, “daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.” (Rhufeiniaid 5:12) Pan bechodd Adda, fe’i gwerthodd ei hun, a ninnau hefyd, i bechod a marwolaeth. (Rhufeiniaid 7:14) Felly, a oes unrhyw obaith inni? Oes, yn sicr.

7, 8. Beth yw pridwerth?

7 Beth yw pridwerth? Yn y bôn, mae dwy elfen i bridwerth. Yn gyntaf, pridwerth yw’r pris sy’n cael ei dalu er mwyn rhyddhau rhywun neu er mwyn prynu rhywbeth yn ôl. Yn ail, pridwerth yw’r union swm sy’n ddigon i dalu am rywbeth.

8 Nid oedd modd i fodau dynol dalu am y niwed a wnaeth Adda pan bechodd a dod â marwolaeth i’r byd. Ond mae Jehofa wedi trefnu ffordd inni gael ein rhyddhau o afael pechod a marwolaeth. Dewch inni ddysgu sut mae’r pridwerth yn gweithio a sut mae’n gallu bod o les inni.

SUT TREFNODD JEHOFA Y PRIDWERTH?

9. Pa fath o bridwerth oedd ei angen?

9 Nid yw’n bosib i neb ohonon ni dalu’r pridwerth am y bywyd perffaith a gollodd Adda. Pam? Oherwydd rydyn ni i gyd yn amherffaith. (Salm 49:7, 8) Roedd angen bywyd perffaith arall i dalu’r pridwerth. Mae’r Beibl yn dweud i Iesu roi “ei fywyd yn aberth i dalu’r pris am ollwng pobl yn rhydd.” (1 Timotheus 2:6) Roedd yn rhaid i’r pridwerth gyfateb yn union i’r bywyd a gollodd Adda.

10. Sut gwnaeth Jehofa drefnu’r pridwerth?

10 Sut gwnaeth Jehofa drefnu’r pridwerth? Anfonodd Jehofa ei Fab anwylaf i’r ddaear. Y Mab hwn, Iesu, oedd ei greadigaeth gyntaf. (1 Ioan 4:9, 10) Roedd Iesu yn fodlon gadael ei Dad a’i gartref yn y nefoedd. (Philipiaid 2:7) Trosglwyddodd Jehofa fywyd Iesu o’r nefoedd i’r ddaear, a chafodd Iesu ei eni yn berffaith, heb bechod.—Luc 1:35.

Marwolaeth boenus Iesu

Rhoddodd Jehofa ei Fab annwyl yn bridwerth droston ni

11. Sut gallai un dyn dalu’r pridwerth ar gyfer y ddynoliaeth gyfan?

11 Pan ddewisodd y dyn cyntaf Adda anufuddhau i Jehofa, fe gollodd fywyd perffaith i’r ddynoliaeth gyfan. A oedd modd i ddyn arall ddileu marwolaeth ar gyfer plant Adda? Oedd. (Darllenwch Rhufeiniaid 5:19.) Ni wnaeth Iesu bechu erioed, a rhoddodd ei fywyd perffaith yn bridwerth. (1 Corinthiaid 15:45) Gellid defnyddio ei fywyd perffaith i ddileu marwolaeth ar gyfer pob un o blant Adda.—1 Corinthiaid 15:21, 22.

12. Pam roedd yn rhaid i Iesu ddioddef?

12 Mae’r Beibl yn disgrifio faint roedd Iesu yn dioddef cyn iddo farw. Cafodd ei chwipio’n greulon a’i hoelio ar bren i farw mewn modd araf a phoenus. (Ioan 19:1, 30; Actau 10:39) Pam roedd yn rhaid i Iesu ddioddef fel hyn? Y rheswm oedd bod Satan wedi honni na fyddai neb yn aros yn ffyddlon i Dduw dan brawf. Profodd Iesu fod dyn perffaith yn gallu aros yn ffyddlon i Dduw hyd yn oed o’i brofi i’r eithaf. Dychmygwch pa mor falch o’i Fab oedd Jehofa!—Diarhebion 27:11; gweler Ôl-nodyn 15.

13. Sut cafodd y pridwerth ei dalu?

13 Sut cafodd y pridwerth ei dalu? Cyflwynodd Iesu werth ei fywyd i’w Dad. Yn y flwyddyn 33 OG, ar 14 Nisan yn ôl calendr yr Iddewon, gadawodd Jehofa i elynion Iesu ei ladd. (Hebreaid 10:10) Dri diwrnod wedyn, fe wnaeth Jehofa atgyfodi Iesu, nid fel dyn ond fel ysbryd. Yn nes ymlaen, aeth Iesu yn ôl at ei Dad yn y nefoedd. Yno, cyflwynodd werth ei fywyd perffaith dynol i Jehofa er mwyn talu’r pridwerth. (Hebreaid 9:24) A’r pridwerth bellach wedi’i dalu, mae cyfle inni gael ein rhyddhau rhag pechod a marwolaeth.—Darllenwch Rhufeiniaid 3:23, 24.

SUT GALLWCH CHI ELWA AR Y PRIDWERTH?

14, 15. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn inni gael maddeuant am ein pechodau?

14 Rydyn ni eisoes yn cael lles o rodd fwyaf Duw. Gadewch inni ddysgu sut gall y pridwerth ein helpu ni heddiw ac yn y dyfodol.

15 Cawn faddeuant am ein pechodau. Peth anodd yw gwneud yr hyn sy’n iawn drwy’r amser. Rydyn ni’n gwneud camgymeriadau ac yn dweud a gwneud pethau anghywir. (Colosiaid 1:13, 14) Sut gallwn ni gael maddeuant? Mae angen inni deimlo’n ddrwg calon am ein camgymeriadau a gofyn i Jehofa faddau inni. Wedyn, gallwn ni fod yn hyderus ein bod ni wedi cael maddeuant am ein pechodau.—1 Ioan 1:8, 9.

16. Beth ddylen ni ei wneud i gael cydwybod lân?

16 Cawn gydwybod lân. Os bydd ein cydwybod yn dweud ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, byddwn ni’n teimlo’n euog, neu hyd yn oed yn ddiwerth. Ond does dim rhaid digalonni. Os ydyn ni’n erfyn ar Jehofa am faddeuant, gallwn fod yn sicr y bydd yn gwrando arnon ni ac yn maddau inni. (Hebreaid 9:13, 14) Mae Jehofa eisiau inni siarad ag ef am ein problemau a’n gwendidau. (Hebreaid 4:14-16) O ganlyniad gallwn gael perthynas heddychlon â Duw.

17. Pa fendithion sy’n bosib oherwydd aberth Iesu?

17 Cawn edrych ymlaen at fywyd tragwyddol. “Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.” (Rhufeiniaid 6:23) Gan fod Iesu wedi marw droson ni, gallwn ni fyw am byth a chael iechyd perffaith. (Datguddiad 21:3, 4) Beth ddylen ni ei wneud i gael y bendithion hyn?

A FYDDWCH YN DERBYN Y PRIDWERTH?

18. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn ein caru ni?

18 Ystyriwch y ffordd mae cael anrheg hyfryd yn cyffwrdd â’ch calon. Y pridwerth yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr erioed, a dylen ni fod yn hynod ddiolchgar i Jehofa amdani. Dywed Ioan 3:16: “Mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab.” Ie, roedd Jehofa yn fodlon rhoi ei Fab annwyl, Iesu, inni! Ac fe wyddon ni fod Iesu yn ein caru ni hefyd, oherwydd ei fod yn fodlon marw droson ni. (Ioan 15:13) Mae rhodd y pridwerth yn profi y tu hwnt i amheuaeth fod Jehofa a Iesu yn eich caru yn fawr.—Galatiaid 2:20.

Dynes yn astudio’r Beibl

Wrth inni ddysgu am Jehofa, byddwn yn closio ato a bydd ein cariad tuag ato’n tyfu

19, 20 (a) Sut gallwch chi ddod yn ffrind i Jehofa? (b) Sut gallwch chi ddangos eich bod yn derbyn aberth Iesu?

19 A chithau bellach wedi dysgu am gariad mawr Duw, sut gallwch chi ddod yn ffrind iddo? Peth anodd yw caru rhywun nad ydych yn ei adnabod. Dywed Ioan 17:3 y gallwn ddod i adnabod Jehofa. Wrth ichi wneud hyn, bydd eich cariad tuag ato yn tyfu, byddwch yn awyddus i’w blesio, a byddwch yn dod yn ffrind iddo. Felly, daliwch ati i ddysgu am Jehofa drwy astudio’r Beibl.—1 Ioan 5:3.

20 Trwy dderbyn aberth Iesu. Mae’r Beibl yn dweud bod “bywyd tragwyddol gan bawb sy’n credu yn y Mab.” (Ioan 3:36) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n credu yn Iesu? Mae’n rhaid inni wneud y pethau gofynnodd Iesu inni eu gwneud. (Ioan 13:15) Nid yw’n ddigon i ddweud bod ni’n credu yn Iesu. I dderbyn y pridwerth, bydd rhaid inni roi ein ffydd ar waith. Dywed Iago 2:26: “Mae credu heb weithredu yn farw!”

21, 22. (a) Pam dylen ni fynd i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod ym Mhenodau 6 a 7?

21 Trwy fynychu Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Y noson cyn iddo farw, dywedodd Iesu y dylen ni gofio am ei farwolaeth mewn modd arbennig. Rydyn ni’n gwneud hyn bob blwyddyn. Enw’r cyfarfod hwnnw yw’r Goffadwriaeth, neu “Swper yr Arglwydd.” (1 Corinthiaid 11:20; Mathew 26:26-28) Mae Iesu eisiau inni gofio ei fod wedi rhoi ei fywyd perffaith yn bridwerth droson ni. Dywedodd: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.” (Darllenwch Luc 22:19.) Drwy fynd i’r Goffadwriaeth, rydych chi’n dangos eich bod yn cofio’r pridwerth a’r cariad mawr sydd gan Jehofa a Iesu tuag aton ni.—Gweler Ôl-nodyn 16.

22 Y pridwerth yw’r rhodd orau y gallwn ei chael. (2 Corinthiaid 9:14, 15) Bydd y rhodd hon hyd yn oed yn helpu miliynau o bobl sydd eisoes wedi marw. Byddwn yn trafod sut bydd hynny’n bosib ym Mhenodau 6 a 7.

CRYNODEB

UN: MAE ANGEN Y PRIDWERTH AR BAWB

“Des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”—Mathew 20:28

Pam mae angen y pridwerth arnon ni?

  • Genesis 3:17-19

    Pan ddewisodd Adda fod yn anufudd i Dduw, fe gollodd ei berthynas â Jehofa ynghyd â’i fywyd perffaith, a’r Baradwys.

  • Rhufeiniaid 5:12

    Oherwydd pechod Adda, rydyn ni i gyd wedi etifeddu pechod a marwolaeth.

  • Effesiaid 1:7

    Y pridwerth yw’r ffordd mae Jehofa yn rhyddhau pobl oddi wrth bechod a marwolaeth.

DAU: JEHOFA A DDARPARODD Y PRIDWERTH

“Anfonodd [Duw] ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo.”—1 Ioan 4:9

Sut darparodd Jehofa y pridwerth?

  • Salm 49:7, 8

    Ni allai’r un ohonon ni dalu’r pridwerth ar gyfer y bywyd perffaith a gollodd Adda.

  • Luc 1:35

    Anfonodd Jehofa ei Fab annwyl i’r ddaear i gael ei eni yn ddyn perffaith.

  • Rhufeiniaid 3:23, 24; Hebreaid 9:24

    Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, aeth yn ôl i’r nefoedd a chyflwyno gwerth ei fywyd dynol perffaith i Jehofa er mwyn talu’r pridwerth.

TRI: MAE’R PRIDWERTH YN RHOI GOBAITH INNI

“Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen.”—Datguddiad 21:4

Sut gallwn ni elwa ar y pridwerth?

  • 1 Ioan 1:8, 9

    Cawn faddeuant am ein pechodau.

  • Hebreaid 9:13, 14

    Cawn gydwybod lân gerbron Duw.

  • Rhufeiniaid 6:23

    Cawn edrych ymlaen at fyw am byth.

  • Galatiaid 2:20

    Mae rhodd y pridwerth yn dangos bod Jehofa a Iesu yn ein caru ni’n fawr.

PEDWAR: RHAID DERBYN Y PRIDWERTH

‘Mae Duw wedi rhoi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo gael bywyd tragwyddol.’—Ioan 3:16

Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar i Dduw am y pridwerth?

  • Ioan 17:3

    Drwy ddod i adnabod Jehofa a Iesu, a’u hefelychu.

  • Luc 22:19

    Drwy fynd i Goffadwriaeth marwolaeth Iesu bob blwyddyn.

  • Ioan 3:36; Iago 2:26

    Nid yw’n ddigon dweud ein bod ni’n credu yn Iesu; rhaid dilyn ei ddysgeidiaeth yn ein bywydau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu