LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 104
  • Sut Mae Aberth Iesu “yn Bridwerth Dros Lawer”?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Aberth Iesu “yn Bridwerth Dros Lawer”?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Y Pridwerth—Rhodd Fwyaf Duw
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Y Pridwerth—Anrheg Fwyaf Duw
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Parha i Werthfawrogi’r Pridwerth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Beth Yw’r Anrheg Orau Oll?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2017
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 104
Clorian cyfiawnder yn dangos y gyfatebiaeth rhwng Adda ac Iesu

Sut Mae Aberth Iesu “yn Bridwerth Dros Lawer”?

Ateb y Beibl

Aberth Iesu yw’r modd y mae Duw yn achub y ddynolryw rhag pechod a marwolaeth. Mae’r Beibl yn cyfeirio at waed Iesu fel “pridwerth” neu bris a dalwyd i’n hachub. (Effesiaid 1:7; 1 Pedr 1:​18, 19) Dywedodd Iesu ei fod wedi aberthu ei fywyd “yn bridwerth dros lawer.”​—Mathew 20:28, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

Pam roedd angen ‘pridwerth dros lawer’?

Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei greu yn berffaith, hynny yw heb bechod. Byddai wedi bod yn bosib iddo fyw am byth, ond collodd y cyfle hwnnw drwy ddewis bod yn anufudd i Dduw. (Genesis 3:​17-​19) Pan gafodd Adda blant, etifeddodd y plant bechod eu rhieni. (Rhufeiniaid 5:​12) Dyna pam mae’r Beibl yn dangos bod Adda, mewn gwirionedd, wedi “gwerthu” ei hun a’i blant yn gaethweision i bechod a marwolaeth. (Rhufeiniaid 7:​14) Gan eu bod nhw’n amherffaith, nid oedd yr un ohonyn nhw’n gallu prynu’n ôl yr hyn yr oedd Adda wedi ei golli.​—Salm 49:​7, 8.

Tosturiodd Duw wrth ddisgynyddion Adda, gan nad oedd modd iddyn nhw gywiro’r sefyllfa. (Ioan 3:​16) Eto, gan fod Duw yn hollol gyfiawn, nid oedd modd iddo ddiystyru neu esgusodi eu pechodau heb fod sail i’w faddeuant. (Salm 89:14; Rhufeiniaid 3:​23-​26) Mae Duw yn caru’r ddynolryw, felly fe drefnodd ffordd gyfreithiol nid yn unig i’w pechodau cael eu maddau, ond i gael eu dileu hefyd. (Rhufeiniaid 5:​6-8) Y pridwerth yw’r sail gyfreithiol honno.

Sut mae’r pridwerth yn gweithio?

Yn y Beibl, mae’r term “pridwerth” yn cynnwys y tair agwedd ganlynol:

  1. Mae’n daliad.​—Exodus 21:30, BCND.

  2. Mae’n rhyddhau.​—Numeri 3:​46-49.

  3. Mae’n cyfateb i werth yr hyn sy’n cael ei brynu.a

Ystyriwch sut mae aberth Iesu Grist yn cynnwys y tair agwedd hyn.

  1. Taliad. Mae’r Beibl yn dweud bod “pris wedi ei dalu” am Gristnogion. (1 Corinthiaid 6:​20; 7:​23) Y pris hwnnw yw gwaed Iesu sydd “wedi prynu pobl i Dduw . . . o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl.”​—Datguddiad 5:​8, 9.

  2. Rhyddhau. Mae aberth Iesu yn “talu’r pris i’n rhyddhau ni o afael pechod.”​—1 Corinthiaid 1:​30; Colosiaid 1:​14; Hebreaid 9:​15.

  3. Cyfatebiaeth. Mae aberth Iesu​—ei fywyd dynol perffaith​—yn cyfateb yn union i’r hyn a gollodd Adda. (1 Corinthiaid 15:21, 22, 45, 46) Mae’r Beibl yn dweud: “Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A’r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.” (Rhufeiniaid 5:​19) Mae hyn yn esbonio sut mae marwolaeth un dyn yn gallu talu’r pridwerth dros lawer o bechaduriaid. Mae’r bywyd dynol perffaith a aberthodd Iesu “yn bridwerth dros bawb” sy’n cymryd y camau angenrheidiol i’w dderbyn.​—1 Timotheus 2:​5, 6, BCND.

a Yn y Beibl, mae’r geiriau gwreiddiol a gyfieithir “pridwerth” yn cyfleu’r syniad o bris, neu rywbeth gwerthfawr, sy’n cael ei dalu. Er enghraifft, ystyr sylfaenol y ferf Hebraeg caphar yw “gorchuddio.” Fel arfer mae’n cyfeirio at orchuddio neu faddau pechod. (Salm 65:3) Mae’r enw cysylltiedig copher yn cyfeirio at y pris sy’n cael ei dalu er mwyn trefnu’r gorchuddio, sef y pridwerth neu’r brynedigaeth. (Exodus 21:30, BCND) Yn yr un modd, mae’r gair Groeg lutron, a gyfieithir yn aml “pridwerth,” hefyd yn cael ei gyfieithu “pris i ryddhau.” (Mathew 20:28) Roedd ysgrifenwyr Groeg yn defnyddio’r term i gyfeirio at bris a daliwyd i ryddhau carcharor rhyfel neu gaethwas.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu