LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • rj rhan 5 tt. 12-15
  • Tro yn ôl at y Bugail Sy’n Gofalu Amdanat Ti

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Tro yn ôl at y Bugail Sy’n Gofalu Amdanat Ti
  • Tro yn ôl at Jehofa
  • Erthyglau Tebyg
  • Tro yn ôl Ata I
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Bydd Ef yn Dy Gryfhau
    Canwn yn Llawen i Jehofa
  • Fe’ch Gwna Chi’n Gadarn
    Canwch i Jehofa
  • Mae Jehofa yn Dy Drysori Di!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Gweld Mwy
Tro yn ôl at Jehofa
rj rhan 5 tt. 12-15

RHAN 5

Tro yn ôl at y Bugail Sy’n Gofalu Amdanat Ti

Oeddet ti’n gallu uniaethu ag un neu fwy o’r heriau a gafodd eu trafod yn y llyfryn hwn? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer o weision ffyddlon Duw—yn amser y Beibl ac yn ein hamser ni—wedi delio â heriau tebyg. Fel y cawson nhw help gan Jehofa i ddod dros eu heriau, fe gei dithau hefyd.

Bydd Jehofa yn bendant yno wrth iti droi’n ôl ato

COFIA y bydd Jehofa yn bendant yno wrth iti droi’n ôl ato. Fe fydd yn dy helpu di i ymdopi â phryder, i wella teimladau sydd wedi eu brifo, ac i gael yr heddwch meddwl a heddwch calon sy’n dod o gael cydwybod lân. Yna, efallai cei di dy gymell unwaith eto i wasanaethu Jehofa gyda dy gyd-gredinwyr. Bydd dy sefyllfa di yn debyg i sefyllfa rhai o Gristnogion y ganrif gyntaf. Ysgrifennodd yr apostol Pedr hyn atyn nhw: “Roeddech chi’n arfer bod fel defaid wedi mynd ar goll, ond dych chi bellach wedi dod yn ôl at y Bugail sy’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 2:25.

Troi yn ôl at Jehofa yw’r peth gorau gallet ti ei wneud. Pam? Byddi di’n gwneud calon Jehofa’n hapus. (Diarhebion 27:11) Fel rwyt ti’n gwybod, mae gan Jehofa deimladau, felly mae ein gweithredoedd yn cael effaith arno. Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn ein gorfodi i’w garu a’i wasanaethu. (Deuteronomium 30:19, 20) Disgrifiodd un ysgolhaig Beiblaidd y sefyllfa fel hyn: “Does dim handlen ar du allan drws y galon ddynol. Mae’n rhaid ei agor o’r tu mewn.” Drwy addoli Jehofa â chalon yn llawn cariad, gallwn ni ddewis agor y drws hwnnw. Pan wnawn ni hynny, byddwn ni’n rhoi anrheg werthfawr iddo—ein ffyddlondeb—ac yn dod â llawenydd mawr i’w galon. Y gwir amdani yw, does dim byd all gymharu â’r hapusrwydd a gawn o addoli Jehofa—addoliad mae’n sicr yn ei haeddu.—Actau 20:35; Datguddiad 4:11.

Chwaer anweithredol yn cael ei chroesawu’n gynnes yn ôl i’r gynulleidfa

Ar ben hynny, pan fyddi di’n ailddechrau dy addoliad Cristnogol, bydd dy angen ysbrydol yn cael ei fodloni. (Mathew 5:3) Ym mha ffordd? Mae pobl o gwmpas y byd yn gofyn iddyn nhw’u hunain, ‘Pam ’dyn ni yma?’ Maen nhw’n ysu am gael yr atebion i gwestiynau am bwrpas bywyd. Mae gan bobl yr angen hwnnw am mai dyna sut cawson nhw eu creu gan Jehofa. Cawson ni’n dylunio ganddo i gael boddhad o’i wasanaethu. Does dim byd yn gallu ein gwneud ni’n fwy bodlon na gwybod ein bod ni’n gwasanaethu Jehofa allan o gariad.—Salm 63:1-5.

Plîs cofia fod Jehofa eisiau iti ddod yn ôl ato. Sut gelli di fod yn sicr? Ystyria hyn: Cafodd y llyfryn hwn ei baratoi’n ofalus gyda llawer o weddïau. Efallai cest ti’r llyfryn gan henuriad Cristnogol neu gyd-grediniwr arall. Ac wedyn, cest ti dy sbarduno i’w ddarllen ac i ymateb i’w neges. Mae hyn i gyd yn profi nad ydy Jehofa wedi anghofio amdanat ti. I’r gwrthwyneb, mae ef yn dy dynnu yn ôl ato mewn ffordd dyner.—Ioan 6:44.

Gallwn ni gael cysur o wybod nad ydy Jehofa byth yn anghofio ei weision coll. Dyna beth daeth chwaer o’r enw Donna i’w werthfawrogi. Dywedodd hi: “O’n i wedi crwydro’n ara’ deg oddi wrth y gwirionedd, ond byddwn i’n aml yn myfyrio ar Salm 139:23, 24, sy’n dweud: ‘Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni. Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.’ Oeddwn i’n gwybod nad o’n i’n perthyn i’r byd—do’n i erioed wedi ffitio mewn yno go iawn—ac o’n i’n gwybod mai yng nghyfundrefn Jehofa o’n i angen bod. Dechreuais weld nad oedd Jehofa erioed wedi fy ngadael i; o’n i jest angen ffeindio fy ffordd yn ôl ato fo. A dw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny!”

“Dechreuais weld nad oedd Jehofa erioed wedi fy ngadael i; o’n i jest angen ffeindio fy ffordd yn ôl ato fo”

Gweddïwn yn daer y byddi dithau hefyd yn cael “bod yn llawen yn yr ARGLWYDD” unwaith eto. (Nehemeia 8:10) Wnei di byth ddifaru troi’n ôl at Jehofa.

Atebion i Gwestiynau am Droi yn ôl at Jehofa

LLE I DDECHRAU?

Chwaer anweithredol yn darllen y Beibl

Efallai bydd rhaid i rywun sydd wedi bod yn sâl fynd yn ôl i’w drefn arferol yn raddol. Mewn ffordd debyg, gelli di gryfhau fel Cristion drwy geisio cymryd o leiaf ychydig o fwyd ysbrydol bob dydd. Paid â meddwl bod rhaid iti wneud popeth ar unwaith. Gallet ti dreulio ychydig o funudau yn darllen y Beibl neu’n gwrando ar recordiad ohono, yn astudio un o’n cyhoeddiadau, yn pori gwefan jw.org, neu’n gwylio un o’r rhaglenni sy’n cael eu darlledu ar jw.org. Hefyd, ceisia fynd i un o’r cyfarfodydd cyn gynted â phosib. Yn fwy na dim, gweddïa ar Jehofa a gofyn am ei help. “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.

“Ar ôl imi fynd yn anweithredol a stopio mynd i’r cyfarfodydd, o’n i’n teimlo gormod o gywilydd i weddïo hyd yn oed. Pan wnes i fagu digon o blwc i weddïo, daeth henuriad o’r gynulleidfa leol i fy ngweld i. Wnaeth o fy helpu i werthfawrogi’r ffaith bod Jehofa heb gefnu arna i. Awgrymodd yr henuriad imi ddechrau drwy ddarllen y Beibl bob dydd. Pan wnes i hynny, ces i’r nerth i fynd yn ôl i’r cyfarfodydd. Ymhen amser, dechreuais fynd ar y weinidogaeth eto. Dw i mor hapus na wnaeth Jehofa erioed gefnu arna i.”—Eeva.

SUT GROESO GA I GAN Y GYNULLEIDFA?

Gelli di fod yn sicr y bydd y gynulleidfa yn rhoi croeso cynnes iti. Yn hytrach na phigo beiau neu dy feirniadu di, byddan nhw’n cadarnhau eu cariad tuag atat ti ac yn gwneud popeth yn eu gallu i dy annog di.—Hebreaid 10:24, 25.

“Oedd gen i ormod o gywilydd mynd yn ôl i’r Neuadd. O’n i’n poeni am sut byddai’r brodyr a chwiorydd yn fy nhrin i. Dyma chwaer hŷn oedd yno 30 mlynedd yn ôl yn dweud wrtho i, ‘Croeso adre, ’ngwas i!’ Mi wnaeth hynny gyffwrdd fy nghalon. O’n i’n teimlo mai dyma oedd fy nghartref.”—Javier.

“Es i i Neuadd y Deyrnas ac eistedd yn y rhes gefn fel na fyddai neb yn sylwi arna i. Ond, dechreuodd llawer fy ’nabod i o’r cyfnod pan oeddwn i’n mynd fel crwtyn bach. Wnaethon nhw fy nghroesawu i, a fy nghofleidio i mor gariadus nes imi deimlo ton o heddwch yn dod drosto i. Oedd hi fel petawn i wedi dod gartre.”—Marco.

SUT BYDD YR HENURIAID YN FY HELPU I?

Bydd yr henuriaid yn dy drin di’n garedig. Byddan nhw’n dy ganmol di am geisio ailgynnau’r cariad oedd gen ti ar y cychwyn. (Datguddiad 2:4) Yn llawn trugaredd, fe fyddan nhw’n dy helpu i gywiro unrhyw gamgymeriadau rwyt ti wedi eu gwneud, gan “fod yn garedig” wrth wneud hynny. (Galatiaid 6:1; Diarhebion 28:13) Efallai bydd yr henuriaid yn trefnu i rywun gynnal astudiaeth gyda ti, yn y llyfr “Mwynhewch Fywyd am Byth!” neu gyhoeddiad tebyg. Gelli di fod yn sicr y bydd yr henuriaid yn dy gysuro a dy gefnogi bob cam o’r ffordd.—Eseia 32:1, 2.

“Yn ystod yr wyth mlynedd o’n i’n anweithredol, daliodd yr henuriaid ati i geisio fy helpu. Un diwrnod, dangosodd henuriad luniau imi oedd o wedi eu cymryd ohonon ni’n dau. Llifodd cymaint o atgofion melys yn ôl nes fy mod i’n dechrau dyheu am y llawenydd oedd gen i gynt pan o’n i’n gwasanaethu Jehofa. Yn llawn cariad, gwnaeth yr henuriaid fy helpu i ailsefydlu fy mywyd ysbrydol.”—Victor.

“Bydd Ef yn Dy Gryfhau”

Dwy chwaer yn rhannu llyfr caneuon wrth ganu mewn cyfarfod y gynulleidfa

Mae ein llyfr caneuon, Canwn yn Llawen i Jehofa, yn cynnwys llawer o ganeuon hyfryd sy’n gallu dy gysuro a dy galonogi wrth iti ailddechrau gwneud pethau ysbrydol. Er enghraifft, ystyria eiriau cân 38. Wedi ei seilio ar eiriau 1 Pedr 5:10, mae’r gân yn dwyn y teitl “Bydd Ef yn Dy Gryfhau.”

  1. Roedd rheswm da gan Dduw dros ddod â’r gwir i ti,

    O’r t’wyllwch i’w oleuni ef y dest;

    Fe welodd Duw’r dyhead yn dy galon di

    I’w ’nabod ef yn well, a’r ymchwil wnest.

    Yn ffyddlon i’th gysegriad byddi di,

    A chyson fydd ei ofal drosot ti.

  2. Ei Fab ei hun y rhoddodd Duw i’th achub di,

    Gwir garedigrwydd anhaeddiannol yw.

    Os na wnaeth ddim dal ’n ôl rhag rhoi ei annwyl Fab,

    Paid â phryderu dim, cei help gan Dduw.

    Dy ffydd, a’th gariad ato, Duw a’u gwêl,

    A llwyddo wnei, â’i nerth ef, doed a ddêl.

    (CYTGAN)

    Jehofa Dduw a’th brynodd, a’r pris oedd perffaith waed.

    Yn sicr, gwerthfawr wyt, a’i gariad gei’n ddi-baid.

    Ei ofal gei yn gyson drwy bob adfyd a gwae,

    I gadarnhau dy ffydd, i’th adfer, a’th gryfhau.

Canwn yn Llawen i Jehofa

Er mwyn gwrando ar gerddoriaeth y gân hon a chaneuon eraill y Deyrnas, sgania’r cod neu dos i jw.org.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu