CÂN 48
Cerdded Gyda Jehofa Bob Dydd
(Micha 6:8)
1. Cerdded gyda’n Duw Jehofa
Wnawn yn wylaidd bob dydd byddwn byw.
Mae’n ein cynnal ar y llwybr—
Caredigrwydd anhaeddiannol yw.
Cydiwn yn ei law orchfygol,
Dal yn dynn wnawn yn ddi-baid.
Dal ein llaw dde mae Jehofa
Tra gwnawn sefyll yn ddewr o’i blaid.
2. ’Chydig amser sydd gan Satan,
Wedi gwylltio’n gandryll mae ef nawr.
Gwrthwynebiad all ein dychryn,
Gallem ofni heriau bach a mawr.
Ond, Jehofa sy’n ein cynnal,
I’w wasanaeth ef ymrown.
Caru ef wnawn â theyrngarwch,
Yn agosach fyth ato down.
3. Er mwyn inni gadw’n ffyddlon,
Duw a roddodd inni’r sanctaidd Air,
’R ysbryd glân, a’r gynulleidfa,
Ac mae’n gwrando ar ein gweddi daer.
Ar ein taith ar hyd ei lwybr,
Cerdded wnawn yng nghwmni Duw.
Yn ei ffyrdd parhawn i rodio,
Mewn gwyleidd-dra y ceisiwn fyw.
(Gweler hefyd Gen. 5:24; 6:9; 1 Bren. 2:3, 4.)