CÂN 58
Chwilio am Bobl Sy’n Ceisio Heddwch
(Luc 10:6)
1. Cariad a wnaeth i Iesu chwilio’r byd,
Gan draethu’r gwir drwy ddyddiau hir
Dan wres yr haul hyd lychlyd stryd.
Teyrnas Jehofa ydyw’r newydd da—
A hon yw’r hyfryd efengyl
seiniwn ym mhob gwlad.
O ddrws i ddrws ar draws y tir,
At bawb yr awn i rannu’r gwir:
Bydd pawb yn byw yn hapus iawn cyn bo hir.
(CYTGAN)
Chwilio trwy’r byd
Am bobl sydd yn ceisio heddwch,
Chwilio trwy’r byd,
Ar frys yn ceisio troi pob carreg,
Chwilio yn drylwyr
Trwy’r holl fyd.
2. Cariad sy’n gwneud i ninnau alw’n ôl.
Daioni Duw all rwymo briw
A rhoi i galon awydd byw.
Amser nid erys—rhed pob awr ar ffo,
Ac felly chwilio yn ddiwyd
wnawn bob bryn a bro.
O bentref bach i ddinas fawr,
O lannau’r môr i’r mynydd awn.
Wrth ganfod un â chalon lân—llawenhawn!
(CYTGAN)
Chwilio trwy’r byd
Am bobl sydd yn ceisio heddwch,
Chwilio trwy’r byd,
Ar frys yn ceisio troi pob carreg,
Chwilio yn drylwyr
Trwy’r holl fyd.
(Gweler hefyd Esei. 52:7; Math. 28:19, 20; Luc 8:1; Rhuf. 10:10.)